Trydedd rownd Cwpan Cymru
Llanelli a oedd yn fuddugol yng ngêm fwyaf trydedd rownd Cwpan Cymru dros y penwythnos. Croesawodd Bangor y deiliaid i Ffordd Farrar mewn gêm rhwng y ddau dîm a wynebodd ei gilydd yn y rownd derfynol y tymor diwethaf. 4-1 Lanelli oedd y sgôr bryd hynny a chanlyniad digon tebyg a gafwyd brynhawn Sadwrn wrth i dîm Andy Legg guro o 4-2. Er i Kyle Wilson roi mantais gynnar i Fangor Llanelli oedd ar y blaen o 3-2 ar yr egwyl diolch i gôl Lee Surman a dwy Rhys Griffiths. Ychwanegodd Griffiths ei drydedd ef a phedwerydd Llanelli yn yr ail hanner er mwyn sicrhau’r fuddugoliaeth.
Ychydig iawn o ganlyniadau annisgwyl a gafwyd wrth i naw allan o’r deuddeg tîm Uwch Gynghrair sicrhau eu llefydd yn y rownd nesaf. Yr unig dri thîm fydd ddim yn yr het yw Bangor, Port Talbot a’r Drenewydd. Collodd Port Talbot yn y gêm ddarbi yn erbyn Lido Afan brynhawn Sul, Carl Evans ag unig gôl y gêm tuag at ddiwedd yr hanner cyntaf.
Collodd y Drenewydd gartref yn erbyn Rhyl o 2-1 ar ôl amser ychwanegol, ond efallai nad oedd hwn yn ganlyniad mor annisgwyl â hynny gan fod Rhyl ar frig Cynghrair Undebol Huws-Gray a’r Drenewydd ddim ond ddau safle yn uwch na nhw yn yr unfed safle ar ddeg yn yr Uwch Gynghrair.
Dim ond un tîm sydd yn chwarae ym mhyramid Lloegr sydd ar ôl wedi i Wrecsam golli o 2-1 ar ôl amser ychwanegol yn Airbus.
Dim ond Casnewydd fydd yn cynrychioli’r Gyngres yn y bedwaredd rownd wedi iddyn nhw drechu’r Bari o 3-2 nos Fercher.
Roedd ambell i grasfa wrth i bedwar tîm sgorio chwech. Roedd hatric i Geoff Kellaway wrth i Aberystwyth guro CPD Cefn o 6-1, ac felly hefyd Mark Connolly wrth i’r Bala guro Seintiau Merthyr o 6-0.
6-2 oedd y sgôr o blaid Prestatyn yn erbyn Goytre Unedig a 6-0 i’r Seintiau Newydd yn erbyn Bryntirion Athletic.
Y Canlyniadau’n Llawn
CPD Porth 4-3(c.o.s) Cambrian a Chlydach
Bangor 2-4 Llanelli
Bwcle 4-3 Ffynnon Taf
Caersws 0-1 Llandudno
Caerfyrddin 2-1 Pen-y-bont
CPD Cefn 1-6 Aberystwyth
Y Fflint 4-0 Gwasanaeth Sifil Casnewydd
Gap Cei Connah 1-2 Derwyddon Cefn
Seintiau Merthyr 0-6 Bala
Castell Nedd 3-0 West End
Casnewydd 3-2 Y Bari
Drenewydd 1-2(a.y.) Rhyl
Port Talbot 0-1 Lido Afan
Prestatyn 6-2 Goytre Unedig
Y Seintiau Newydd 6-0 Bryntirion Athletic
Wrecsam 1-2(a.y) Airbus
c.o.s. – ar ôl ciciau o’r smotyn
a.y – ar ôl amser ychwanegol