Dreigiau 14–14 Glasgow

Bu rhaid i’r Dreigiau ddibynnu ar gic gosb hwyr Jason Tovey i achub gêm gyfartal ar ôl rheoli’r gêm yn erbyn Glasgow ar Rodney Parade heno. Llwyddodd y maswr gyda chic olaf y gêm er mwyn sicrhau dau bwynt i’r Dreigiau yn y Pro12 mewn gêm yr oeddynt yn haeddu ei churo.

Hanner Cyntaf Siomedig

Y Dreigiau oedd y tîm gorau mewn hanner cyntaf siomedig. Ond er i’r rhanbarth o Gymru reoli’r tir a’r meddiant yr ymwelwyr a oedd ar y blaen o 3-0 ar yr egwyl diolch i gic gosb lwyddiannus eu maswr, Ruaridh Jackson wedi pum munud.

Cafodd maswr y Dreigiau, Steffan Jones ddau gyfle i unioni’r sgôr ond methodd ar y ddau achlysur. Roedd y cyfle cyntaf wedi 12 munud yn un hawdd a’r ail yn hwyr yn yr hanner yn ymddangos yn un cymharol rwydd hefyd. Ond methu oedd hanes y maswr wrth i Glasgow ddal eu gafael ar eu tri phwynt o fantais.

Dyblodd Jackson y fantais honno yn gynnar yn yr ail gyfnod gyda’i ail gic gosb wedi 43 munud. Ond roedd Jones wedi dod o hyd i’w esgidiau cicio yn rhywle yn ystod yr egwyl hefyd a chaeodd yntau’r bwlch yn ôl i dri phwynt gyda’i gic lwyddiannus gyntaf ef wedi 49 munud.

Roedd y Dreigiau yn rheoli’r gêm unwaith eto yn hanner cyntaf yr ail hanner ond bu rhaid iddynt dalu’n ddryd am eu diffyg disgyblaeth wrth i Jackson ychwanegu cic gosb arall toc cyn yr awr, 9-3 i’r ymwelwyr gyda chwarter y gêm ar ôl.

Y Dreigiau’n Taro’n Ôl

Roedd Jason Tovey bellach ar y cae i’r Dreigiau ac wedi derbyn y dyletswyddau cicio, a llwyddodd gyda’i gynnig cyntaf wedi 64 munud er mwyn cau’r bwlch i dri phwynt unwaith eto.

Roedd cyfle arall ar blat i Tovey unioni pethau dri munud yn ddiweddarach pan ddyfarnwyd cic gosb i’r Dreigiau o flaen y pyst ond penderfynodd Wayne Evans gymryd y gic gosb yn gyflym a chafodd ei wobrwyo am ei frwdfrydedd wrth i’r Dreigiau sgorio cais cyntaf y gêm. Lledwyd y bêl yn gyflym yn dilyn bylchiad Evans cyn i’r canolwr, Tom Riley dirio yn y gornel dde.

Tarodd trosiad Tovey y postyn ond roedd y Dreigiau ar y blaen am y tro cyntaf yn y gêm yn awr. A bu rhaid i’r ymwelwyr chwarae’r deg munud nesaf gyda phedwar dyn ar ddeg wedi i Rob Harley gael ei anfon i’r gell gosb.

Camgymeriad

Ond yr ymwelwyr a sgoriodd yn ystod y deg munud hynny o ganlyniad i gamgymeriad gwael gan flaenasgellwr y Dreigiau, Lewis Evans. Anelodd yr eilydd o faswr, Scott Wight gic ddigon diniwed yr olwg i’r gornel ond oedodd Evans cyn ei thirio a sleifiodd Wight o’r tu ôl iddo er mwyn sgorio cais cyntaf Glasgow. Methodd y sgoriwr a throsi ei gais ei hun felly tri phwynt o fantais  a oedd gan yr ymwelwyr gyda phum munud ar ôl.

Ond er i’r Dreigiau bwyso yn y munudau olaf wrth chwilio am y cais a fyddai’n ennill y gêm iddynt bu rhaid iddynt setlo am dri phwynt o droed Tovey gyda chic olaf y gêm i achub gêm gyfartal, 14-14 y sgôr terfynol.

Roedd y Dreigiau yn haeddu curo ac roedd hi’n amlwg fod cefnwr y rhanbarth a seren y gêm, Martyn Thomas braidd yn siomedig ar ddiwedd yr ornest:

“Oedden ni moyn buddugoliaeth. Wnaethon ni ddim chwarae’r gêm yn y llefydd iawn yn yr hanner cyntaf a doedd y perfformiad ddim digon da. Ond yn yr ail hanner fe ddechreuon ni chwarae gêm fwy agored a chwarae’n well.”

Er gwaethaf y ddau bwynt mae’r Dreigiau yn aros un safle o waelod tabl y RaboDirect Pro12.