Ulster v Scarlets 7:05pm Heno

 Fe fydd y Scarlets yn teithio i Ravenhill yn y gobaith o wneud y dwbl dros y gŵyr o Ogledd Iwerddon, ar ôl eu maeddu adre o 24-17 ym mis Hydref.

Mae’r Scarlets bellach ar rediad o wyth gêm heb golli, ond mae Ulster wedi ennill eu chwe gêm olaf ar dir cartref yn y Pro 12 ac nid yw’r Scarlets wedi ennill yno ers Medi 2008.

Gyda wyth o’u chwaraewyr rhyngwladol yn wynebu Awstralia yfory a gêm Gwpan Heineken bwysig yn erbyn Munster yr wythnos nesaf mae Nigel Davies wedi rhoi cyfle i aelodau eraill yn y garfan.

Fe fydd yr asgellwr o Tonga, Viliami Iongi, yn dechrau ei gêm gyntaf i’r rhanbarth ac Adam Powell, Mat Gilbert a Kieran Murphy yn dod mewn i’r pac.

Fe fydd y profiadol Sean Lamont a’r capten Stephen Jones yn dod ag arweiniad i’r olwyr a gwelir yr ail ddewis o reng flaen Phil John, Ken Owens a Deacon Manu yn awyddus i roi pwysau ar Iestyn Thomas, Matthew Rees a Rhys Thomas.

Leinster v Gleision 20:05 Heno

 

Mae’r Gleision wedi ennill dau allan o’u tri gêm olaf ar yr Ynys Werdd. Ond dim ond un waith maen nhw wedi trechu Leinster yn Nulyn ers ffurfio’r rhanbarth a hynny yn 2004. Ond ydyw ystadegau’n wych!

Dyw Leinster heb golli yn eu hwyth gêm olaf ac maen nhw wedi eu harfogi gyda dau o arwyr y tîm cenedlaethol sef Sean O’Brien a Cian Healy yn y blaenwyr, fydd hon yn dipyn o her i’r Gleision.

Ond mae rheswm i fod yn obeithiol, gyda Xavier Rush yn dychwelyd o anaf a Casey Laulala yn dychwelyd i’r pymtheg cyntaf. Ceri Sweeney sy’n cael ei ffafrio yn safle’r maswr ac fe fydd Richie Rees yn ymuno ag ef yn safle’r haneri.

Gweilch v Munster 18:30 Sadwrn

 

Gornest rhwng y cyntaf a’r trydydd yng nghynghrair y Pro 12. Er hyn mae saith o chwaraewyr y Gweilch yn absennol yn cynrychioli eu gwlad yfory a thri arall ar y gylchdaith saith bob ochr.

Mae Munster hefyd yn llygadu’r ornest yn erbyn y Scarlets ar lwyfan Ewrop yr wythnos nesa, ac yn enwi Paul O’Connell a Ronan O’Gara ar y fainc.

Yr un yw tîm y Gweilch a drechodd Connacht yr wythnos ddiwethaf ond am un newid yn y pac. Fydd James King yn symud o’r ail reng i’r blaen asgell agored i gymryd lle Chauncey O’Toole. Fe fydd Jonathan Thomas yn camu i safle’r clo.

Fe fydd y Gweilch yn gobeithio elwa o’r profiad o hyfforddi gyda thîm Awstralia ddoe.

Dreigiau v Glasgow  16:30 Sul

Wedi arwyddo’r asgellwr o Samoa, Andy Tuilagi, ddechrau’r wythnos mae’r Dreigiau wedi ei osod yn syth ar y fainc.

Mae Darren Edwards, hyfforddwr y Dreigiau, wedi gwneud chwe newid i’r tîm a gollodd i’r Scarlets yr wythnos ddiwethaf. Fe fydd Lewis Evans yn dychwelyd i’r rheng ôl,ac fe fydd Lloyd Burns yn dychwelyd i eistedd ar y fainc.

Nathan Williams, Steve Jones a Nathan Buck sydd yn cael eu henwi yn y rheng flaen i orffwyso  Phil Price, Rhys Buckley a Dan Way ac yn yr ail reng fydd Scott Morgan yn ymuno a Adam Jones yn lle Rob Sidoli.

Dim ond yn safle’r maswr y gwelir yr unig newid yn yr olwyr, Steffan Jones yn hawlio’r crys rhif 10 o flaen Jason Tovey.

Caio Higginson