Andy Morrell
Mae rheolwr Wrecsam Andy Morrell wedi cyfaddef bod y fuddugoliaeth nos fercher ddiwethaf yn un anodd i’w gwylio – ond roedd wrth ei fodd bod Wrecsam yn eistedd ar frig y tabl unwaith yn rhagor.
Ac mae’n gobeithio am fwy o’r un peth oddi cartref yn erbyn Brentford y pentyhnos yma.
Fe ddaeth Wrecsam yn ôl yn hwyr yn yr ail hanner i gipio’r fuddugoliaeth yn erbyn Fleetwod.
Gyda’r fuddugoliaeth honno mae Wrecsam yn ddiguro mewn 13 gêm.
‘‘Doedd hi ddim yn gêm ddeiniadol mae’n rhaid i mi ddweud. Ond y canlyniad yw’r peth pwysicaf,” meddai Morrell.
‘‘Fe ddaethom allan ohoni ar y brig. Os yr oeddem yn haeddu’r buddugoliaeth, wel, stori arall ydi hynny. Gadewch i ni fynd â’r pwyntiau a bod yn hapus o fod ar frig y tabl,” ychwanegodd.