Sam Warburton
Mi fydd yna ambell i rinwedd bwysfilaidd ar y cae yfory…
7. Sam Warburton v David Pocock
Dyma’r frwydr fydd pawb am ei gweld. Y ddau’n debyg yn eu rhinweddau bwystfilaidd ond eto’n ddeallus. Mae’r ddau yma’n allweddol i’w gwledydd. Fe welodd Cymru eisiau Warburton yn eu gêm olaf yn erbyn Awstralia yng Nghwpan y Byd.
Cafodd pac y Wallabies eu dofi gan Seland Newydd yn y rownd gyn-derfynol, er hynny cafodd Pocock y gorau o’i wrthwynebydd Riche McCaw. Roedd yn heriol a diffuant yn erbyn pac y Crysau Duon trwy gydol yr 80 munud.
15. Leigh Halfpenny v Adam Ashley Cooper
Dyma ddau chwaraewr cyffrous sy’n dod ag agwedd wahanol o ymosod i’w timoedd. Mae’r ddau’n medru chwarae ar yr asgell, ac Ashley Cooper wedi chwarae yn y canol yn erbyn Cymru y tro diwethaf yng ngêm trydydd/pedwerydd safle Cwpan y Byd.
Heb os fydd y ddau yn cael eu profi gan giciau uchel yfory gan nad yw’r un ohonynt yn gefnwyr arbenigol.
10. Rhys Preistland v James O’Connor
Ers disgleirio yng Nghwpan y Byd mae’r Cymro eto wedi profi ei werth gyda dau berfformiad aeddfed i’r Scarlets yn dod oddi ar y fainc yn erbyn Castres a chael gêm lawn yn erbyn Northampton.
Mae hyfforddwr Awstralia, Robbie Deans, wedi dangos menter wrth benodi’r asgellwr/ cefnwr James O’Connor yn faswr. Cafodd ddylanwad mawr yn y goten a ddosbarthwyd i’r Barbariaid yr wythnos ddiwethaf ond fe fydd y Cymry yn siŵr o’i dargedu yn ystod y gêm.
9. Lloyd Williams v Will Genia
Math gwahanol o fewnwr yw Lloyd Williams i’r hyn mae Warren Gatland yn tueddi ei ddewis. Yn fywiog wrth fôn y sgrym a’i bas yn gynt na Phillips a Knoyle, fe fydd yn allweddol i sicrhau pêl cyflym i’w olwyr.
Yn yr un modd mae Will Genia yn ddyn i flaenasgellwyr Cymru fod yn wyliadwrus ohono. Yn fewnwr bisi mae’n tueddu i gymryd cam yn ôl wrth basio ac yn debyg i Mike Phillips wrth ddosbarthu i’w olwyr â chysondeb, nes twyllo’r amddiffynwyr maes o law, a bylchu.
4. Ian Evans v James Horwill
Bu nifer yn darogan y byddai Ian Evans yn mwynhau gyrfa ryngwladol lewyrchus pan gamodd i dimau’r Gweilch a Chymru, ond wedi cyfres o anafiadau nid yw’r clo wedi gwisgo’r crys coch am dair blynedd. Ond gydag anafiadau i Alun Wyn Jones a Luke Charteris mae hwn yn gyfle gwych i greu argraff. Fe fydd yn rhaid iddo wneud tipyn o waith i efelychu campau’r ddau yna.
Yn gapten dros ei wlad mae James Horwill yn arwain trwy esiampl. Nid yw’n chwaraewr sy’n disgleirio ar y cae ond yn gwneud y gwaith diddiolch yn effeithiol yn y sgarmesi ac wrth daclo. Wedi dweud hynny fe sgoriodd ddau gais ar ôl dod i’r cae fel eilydd yn erbyn y Barbariad yr wythnos ddiwethaf.
3. Scott Andrews v 1. James Slipper
Dau brop i’r dyfodol. Prin yw profiad Andrews yn y pen tyn ond, os oes yna fath beth â phrawf ‘ysgafn’ ar y lefel ryngwladol, yn erbyn y Wallabies fyddai hwnna, yng nghyd-destun sgrymio…a dim byd arall!
Gydag un cap i’w enw fe fydd Scott Andrews yn cael gwres ei draed gan James Slipper sydd yn chwaraewr defnyddiol i Awstralia. Mae’r Wallabies wedi dioddef yn y blynyddoedd diwethaf yn y sgrymiau ac er nad yw Slipper yn chwaraewr rheolaidd yn y tîm cenedlaethol mae wedi creu anawsterau i bropiau pen tyn ar y lefel ryngwladol. Fe all Martin Castrogiovanni o’r Eidal dystio i hynny.
Caio Higginson