Rhys Priestland oedd seren y gêm yn erbyn Northampton
Gohebydd Rhanbarth Y Scarlets, Aled Evans, sy’n dadansoddi buddugoliaeth wych ei dîm yn erbyn Northampton.

‘And it’ll be Sosban fach all the way back to Llanelli’

Dyma oedd geiriau edmygydd mwyaf y Scarlets, y gohebydd a’r cyn chwaraewr Stuart Barnes, yn dilyn y chwiban olaf Nos Wener.

Roedd ceisiau gan Williams, Shingler, Gilbert a’r meistrolgar Rhys Priestland yn ddigon ar gyfer gwŷr Tre’r Sosban mewn buddugoliaeth hanesyddol.

Hon oedd canlyniad y penwythnos, ac fe fydd y Scarlets yn carlamu tuag at ddwy ornest yn erbyn Munster ym mis Rhagfyr yn llawn hyder.  Mae’r frwydr rhwng y cochion ifanc Sgarled, a’r cochion profiadol o’r Ynys Werdd yn tynnu dŵr i’r dannedd, a hyd yn oed os na fydd y chwarae ar y cae yn cyrraedd y safon uchel ddisgwyliedig, fe fydd y canu o’r eisteddle yn siŵr o blesio!

Balchder

Rhaid cyfaddef fod bywyd fel cefnogwr y Scarlets yn medru bod yn fywyd eithaf anodd ar adegau.

Rwyf i fel nifer o gefnogwyr eraill, wedi profi sawl siwrnai hir lafurus nôl ar hyd yr M4 wedi siomedigaethau yn erbyn rhai o’n gelynion o Loegr, fel Caerlŷr a’r Wasps.

Ond nos Wener ddiwethaf, yn dilyn buddugoliaeth ysgubol o 28 i 23 yn Northampton, fe lwyddodd y rhanbarth i gyfnewid y teimlad o iselder wrth deithio nôl i Gymru, am deimlad o falchder a gorfoledd.

Y cam nesaf i’r Scarlets yw cynnal y safon uchel a osodwyd yn erbyn Castres a Northampton. Mae yna her fawr yn wynebu Nigel Davies a’i griw gan fod yr olwyr a amlygodd eu hunain yn diflannu am bythefnos i gynrychioli Cymru.

Ond fe fydd Stephen Jones a Sean Lamont yma o hyd i herio’r Dreigiau ym Mharc y Scarlets y penwythnos yma, ac ar gyfer yr ymweliad i Ravenhill i frwydro Ulster y penwythnos olynol.

Blaenwyr yn ben

Rhaid edmygu ymdrech y blaenwyr, a lwyddodd i ddal eu tir yn erbyn wyth blaen y Seintiau. Fe fydd y mwyafrif o’r rhain ar gael i wynebu pac y Dreigiau sy’n llawn dyfalbarhad, ond heb ddoniau Faletau, Charteris, Lydiate a Burns fe fydd chwaraewyr y Scarlets yn gobeithio am bêl gyflym i’r olwyr peryglus.

Roedd canlyniad y Dreigiau yn erbyn James Hook a’i gyfeillion o Perpignan yn un i’w ganmol. Ond rhaid pwysleisio fod gemau’r Cwpan Heineken yn cael eu chwarae ar lefel llawer fwy dwys na’r Amlin.

Fe fydd gwŷr Gwent yn gobeithio sicrhau eu lle gydag elite Ewrop y flwyddyn nesaf. Un ffordd i wneud hynny fyddai i neidio uwchben y Scarlets yn y tabl. Wedi’r cyfan, tair buddugoliaeth yn unig sydd gan y cochion yn y Pro 12, ac er y llwyddiant yn Ewrop maent yn eistedd yn yr wythfed safle yn y gynghrair.

Wrth gwrs fe fyddai’r rhanbarth Cymreig sy’n gorffen yn bedwerydd allan o’r 4 hefyd yn cael lle yn yr Heineken am y tymor nesaf, pe bai un ohonynt yn codi tlws Ewropeaidd ym Mis Mai.

Ac yn sgil yr hyn welais i yng Ngherddi Franklins wythnos diwethaf, nid yw hyn i’w weld yn amhosib o gwbl.