Mae’r Adar Gleision wedi symud i fyny i’r trydydd safle yn y Bencampwriaeth wedi gêm gyfartal oddi cartref yn Coventry neithiwr.
Parhau mae record sgorio Peter Whittingham o bedair gôl yn y bedair gêm ddiwethaf wedi iddo elwa o dafliad Aron Gunnarsson, i sgorio wedi 47 munud neithiwr.
Ond taro nôl a wnaeth Coventry, sydd yn ail o waelod y gynghrair, trwy beniad Lukas Jutkiewicz. Er i Gaerdydd ddod yn agos i gipio’r fuddugoliaeth, methodd Kenny Miller â thri chyfle cyn y diwedd.
Er hyn nid yw Ali Yassine, cefnogwr a chyhoeddwr Stadiwm Dinas Caerdydd, yn edrych ar y canlyniad fel dau bwynt wedi eu colli. “Rwy’n hapus iawn gyda’n record ni i ffwrdd. Petai rhywun wedi dweud wrthym ni o flaen llaw, y bydden ni yn cymryd pedwar pwynt allan o chwech yn ein dwy gêm oddi cartref, bydde ni’n fodlon iawn gyda hynna.”
Wedi perfformiadau personol Peter Whittingham yn ddiweddar mae nifer o bobl, gan gynnwys cyn hyfforddwr CPD Caerdydd Dave Jones, wedi darogan y bydd clybiau’r Uwch Gynghrair yn edrych i arwyddo’r chwaraewyr canol cae pan fydd y ffenestr drosglwyddo yn agor ym mis Ionawr.
Ond nid yw Ali Yassine yn gofidio am hyn.
“Fe arwyddodd Peter gytundeb ar ddechrau’r tymor er mwyn aros gyda’r clwb am gyfnod hirach. Mae’n ymddangos yn hapus gyda’r tîm” meddai wrth Golwg360.
Cydnabyddodd ddylanwad Malky Mackay, hyfforddwr yr Adar Gleision, am symud Whittingham i ganol cae o’r asgell chwith.
“Dau dymor yn ôl roedd e’n brif sgoriwr y tymor i ni, ac mae ei gêm wedi gwella o dan Malky Mackay.”
Wrth edrych ymlaen at eu gêm nesa, adre yn erbyn Nottingham Forest, mae’n ffyddiog y gall Caerdydd barhau a’u “record cartref dda”.
“Dechrau’r tymor doedd neb yn disgwyl i ni fod yn y sefyllfa yma, felly ma popeth arall yn fonws”.