Neithiwr fe drechodd Wrecsam dîm Caergrawnt ar y Cae Ras gan sicrhau lle i’w hunain yn ail rownd Cwpan yr FA.
Byddan nhw nawr yn herio Brentford ar Sadwrn 3 Rhagfyr, gyda’r posibilrwydd o hwb sylweddol i goffrau ariannol y clwb.
Gyda’r fuddugoliaeth yma, mae Wrecsam yn ymestyn eu rhediad diguro i 11 gêm ym un mhob cystadleuaeth.
Bydd rhai clybiau yn ennill £67,000 pe bai’r gemau yn ymddangos ar raglenni fel ESPN neu ITV – beth bynnag, ar S4C fydd gêm Wrecsam yn cael ei darlledu, lle mae’r wobr yn is ond dal i fod yn swm sylweddol o £10,000. Bydd enillwyr y gêm yn derbyn £18,000 yn ychwanegol o wobr ariannol y gystadleuaeth.
Bydd yr hwb ariannol yn cael ei groesawu yng nghlwb pêl-droed Wrecsam, gydag adroddiadau sydd wedi dod i’r amlwg heddiw bod y chwaraewyr wedi derbyn tâl ond bod llawer o oedi o ran talu’r staff oddi ar y cae.
‘‘Os byddwn yn ffodus yn erbyn Brentford ac yn medru sicrhau buddugoliaeth, mwy na thebyg byddwn yn wynebu clwb o’r Uwch Gynghrair, a bydd hynny o fudd mawr ac yn elwa’n ariannol o ran y clwb ac o ran cyllid,’’ meddai Huw Davies, aelod o ymddiriedolaeth cefnogwyr Wrecsam.
‘‘Mae’r gystadlaethau yma yn bwysig, yn enwedig i glybiau tebyg i ni, i geisio a gwneud yn fawr ohoni, gan ddenu’r arian i’r clybiau a rhoi profiad newydd i’r chwaraewyr,’’ ychwanegodd.
‘‘Mae’r cynghrair yn bwysicach i mi yn bersonol, ond byddai’n dda gweld rhediad campus gan Wrecsam yn y gystadleuaeth.’’
Ond cyn hynny, bydd Wrecsam yn herio Braintree Town sy’n ddegfed yn nhabl yr Uwch Gynghrair Blue Square Bet lle mae Wrecsam ar frig y tabl ar ôl chwarae ugain gêm.