Martin Johnson oedd hyfforddwr Lloegr
Parhau mae galar y Saeson wrth i anturiaethau anffodus Cwpan y Byd barhau i ddenu sylw’r wasg.

Beirniadwyd y chwaraewyr a’r hyfforddwyr yn hallt am eu perfformiadau ar y cae yn Seland Newydd…ond fe gawson nhw hi ddwywaith gwaeth am gamfyhafio oddi ar y cae.

Cafwyd straeon anghredadwy yn y wasg, megis noson feddwol yn taflu corachod, Mike Tindall briod yn potisan gyda’i gyn-gariad, Manu Tuilagi yn cael ei arestio am ddeifio megis plymiwr Olympaidd oddi ar long, a chŵyn gan forwyn mewn gwesty am sylwadau anweddus gan Chris Ashton, Dylan Hartley a James Haskell. Hyn oll yn hawlio’r penawdau newyddion ac yn tynnu mwy fyth o sylw i’r rygbi sâl roedden nhw’n ei chwarae ar y cae.

Ers dychwelyd i Loegr mae’r prif hyfforddwr, Martin Johnson, wedi ymddiswyddo ynghyd â Brian Smith, hyfforddwr cynorthwyol. Yn ogystal â hynny mae Mike Tindall wedi cael dirwy o £25,000 gan Undeb Rygbi Lloegr.

Bellach mae Cyfarwyddwr yr Undeb Rygbi, Rob Andrews, dan bwysau i ymddiswyddo wedi iddo gyfaddef na all tîm nag Undeb Rygbi Lloegr suddo’n is.

Daw’r datganiad hwn wedi i fanylion cyfrinachol ymchwiliad i berfformiad carfan Lloegr yng Nghwpan y Byd ddod i’r amlwg ym mhapur newydd The Times, lle mae’r chwaraewyr yn beirniadu ei gilydd bron mor hallt â’r wasg.

Mae’r papur newydd yn datgelu bod y chwaraewyr wedi gweld bai ar y tîm hyfforddi. Dyma ambell sylw anhysbys sydd wedi ei ddatgelu…

Mike Ford:  “Dyw e heb symud ymlaen ers 2007..a dweud y gwir mae e wedi mynd am yn ôl. Hanner yr amser doedd gennym ni ddim syniad beth oedd e’n siarad amdano.”

John Wells: “ Yn dda ar yr ochr dechnegol ond yn eithaf hynafol. Roedd e allan o’i ddyfnder. Mae yna o leia’ 20 hyfforddwr yn yr Uwch Gynghrair fyddai’n well.”

Dave Alred: “Roedd gennym ni broblemau cicio, ond bron pob bore byddem yn gweld Alred yn cerdded o gwmpas mewn crys polo yn barod i chwarae rownd arall o golff. Dim dyna yw’r ddelwedd y dyle ti fod yn dangos, mai gwyliau yw hyn i ti.”

Saeson yn cyfaddef twyllo

Mae sgandal“ball Gate” yn codi yn yr adroddiad, yn cyfeirio at y gêm yn erbyn Romania pan gosbwyd dau o’u hyfforddwyr am gyfnewid peli cyn i Jonny Wilkinson gicio trosiadau.

Yn ôl un o chwaraewyr Lloegr twyllo oedd hyn, a dyma’r weithred waethaf ar y daith…sy’n dipyn o ddweud, o gofio popeth ddigwyddodd.

Ymddengys mai’r unig hyfforddwr i ddianc rhag gwawd chwyrn y chwaraewyr yw’r hyfforddwr Graham Rowntree:

 “Roedd e’n wych. Roedd pawb yn ei hoffi a’i barchu ac roedd ganddo gydymdeimlad gyda’r chwaraewyr. Fe oedd y gorau o’r holl hyfforddwyr. Mae e o flaen ei amser,” meddai chwaraewr anhysbys yn yr adroddiad oedd i fod yn gyfrinachol.

Mae chwaraewr arall yn dweud bod aelod o’r tîm wedi cwyno ar ôl y golled yn erbyn Ffrainc yn rownd yr wyth olaf bod £35,000 wedi diflannu ‘lawr y gwter’.

Er gwaethaf ymdrechion Rob Andrews i atal y llif cyson o newyddion gwael rhag cyrraedd y wasg, mae’r papurau newydd yn parhau i fwydo ar flas ar y drwg yn y caws.

Caio Higginson