Ian Gough
Mae’r clo bytholwyrdd Ian Gough wedi arwyddo cytundeb dwy flynedd gyda’r Gweilch fydd yn sicrhau ei wasanaeth yn Stadiwm y Liberty hyd at haf 2014.

Fe ymunodd Gough â’r Gweilch yn 2007 ac yfory fe fydd yn cynrychioli’r rhanbarth am y 100fed tro yn erbyn Connacht. Cyn hynny bu’n chwarae i Gasnewydd ac yna rhanbarth y Dreigiau.

Enillodd y cyntaf o’i 64 o gapiau rhyngwladol ar y daith i Dde Affrica yn 1998 dan yr hyfforddwr dros dro Dennis John.

Aeth yn ei flaen i gipio’r Gamp Lawn gyda Chymru yn 2005 a 2008. Daeth ei gap olaf yn erbyn Ffiji flwyddyn yn ôl.

Mae sicrhau estyniad o ddwy flynedd i’w gytundeb yn deyrnged haeddiannol i’r cawr 6’5” 35 oed, o ystyried ei fod yn cystadlu ag Alun Wyn Jones ac Ian Evans  am le yn yr ail reng.

Hefyd, cymaint yw’r gystadleuaeth am lefydd yn rheng ôl y Gweilch nes bod Ryan Jones a Jonathan Thomas yn cael eu hystyried yn safle’r clo yn gyson.

Cawr styfnig ffyrnig

Taclo ffyrnig ac ystyfnigrwydd dieflig yw ei ddau brif rinwedd fel chwaraewr, ac mae’n wir i ddweud nad yw’r rhinweddau hyn wedi pylu wrth iddo aeddfedu, yn wir blodeuo fel chwyn trwy goncrit fyddai’r gymhariaeth deg.

Os yw partneriaeth yr ail reng i weithio’n effeithiol, rhaid cael cydbwysedd. Yn allweddol i’r bartneriaeth mae angen ail reng sy’n athletwr ystwyth, yn neidiwr greddfol yng nghanol y llinell ac sy’n medru arwain ei dîm. Nid dyma’r math o ail reng ag ydyw Ian Gough!

O na, dyma Victor Matfield, Paul O’Connell ac Alun Wyn Jones.

Ond i roi cydbwysedd i berthynas y cloion ar bac o flaenwyr, mae angen cawr sy’n gas ac yn ddiflino yn ei angerdd. Rhywun na fydd yn amlwg i’r cefnogwyr a sylwebwyr yn ei chwarae, ond ffigwr blaengar ymhob ryc a sgarmes ar y cae. Ni fyddai Matfield, O’Connell nag Alun Wyn Jones yn serennu heb y ‘Bad Cops’ sef Bakkies Botha, Donncha O’Callaghan ac Ian Gough.

Felly nid oes dwywaith fod sicrhau estyniad o ddwy flynedd i chwaraewr sy’n 35 mlwydd oed yn dipyn o gamp o ystyried dwyster corfforol y gêm broffesiynol. Ac mae’n amlwg fod hyfforddwyr y Gweilch yn gwerthfawrogi hyn.

 “Mae’n dod ag agwedd gorfforol a chyfoeth o brofiad ar y lefel uchaf un i’r grŵp, ynghyd ac awydd i rannu’r wybodaeth a helpu pobl o’i amgylch.

“Mae hynna’n wych i’r chwaraewyr ifanc yn y grŵp sy’n medru dysgu cymaint wrtho,” meddai Jonathan Humphreys yn canu clodydd y Gough-feistr.