Stephen Jones
Scarlets v Dreigiau Gwent Casnewydd heno am 7:05pm

Yng ngêm fawr y penwythnos gwelir y Gorllewin yn herio’r Dwyrain wrth i’r Scarlets groesawu’r Dreigiau i Barc y Scarlets heno.

Er na fydd 13 o sêr Cymru ar gael mae yna ddigon o gynhwysion yn y gêm yma i dynnu dŵr i’r dannedd.

Fydd hi’n noson fawr i’r capteiniaid, Ashley Smith yn chwarae ei 100fed gêm i’r Dreigiau, tra bod Stephen Jones yn gwneud ei 300fed ymddangosiad i ‘w ranbarth… ac fe fydd am brofi pwynt i Warren Gatland hefyd, wedi iddo gael ei hepgor o garfan Cymru i chwarae Awstralia.

Gyda’r Scarlets yn cyfrannu nifer helaeth o’h holwyr i’r garfan genedlaethol a’r Dreigiau yn cynnig gwasanaeth caib a rhaw eu blaenwyr, fe fydd chwaraewyr o’r ddwy ochr yn awchu i wneud y mwyaf o’u cyfle prin i chwarae yn y tîm cyntaf.

Fydd brwydr y bachwyr yn un i gadw llygad arno, Rhys Buckley o’r Dreigiau a Ken Owens o’r Scarlets. Dau ddyn ifanc sy’n cadw prif fachwyr Gatland ar flaenau eu traed.

 Scarlets

Wedi colli ei le ers sgorio yn erbyn Ulster fis diwethaf, mae Adam Warren yn cychwyn fel canolwr gyda Gareth Maule sy’n dychwelyd wedi anaf. Fydd asgellwr rhyngwladol Tonga, Viliami Iongi, yn eistedd ar y fainc wedi iddo gyrraedd Llanelli’r wythnos yma o Auckland.

Ymhlith y rheng flaen fydd Phil John yn propio ar ochr chwith y sgrym gan roi seibiant i Iestyn Thomas sy’n symud i’r fainc, a Ken Owens yn elwa o absenoldeb Matthew Rees, tra bod gweddill y pac a drechodd Northampton yn cael eu gwobrwyo am eu llwyddiant yr wythnos diwethaf.

Fe fydd y Scarlets yn gobeithio ymestyn eu rhediad o saith gêm ddiguro yn olynol.

Dreigiau

Yn yr un modd fe fydd y Dreigiau yn gobeithio cynnal y momentwm sydd wedi ei greu ers eu buddugoliaethau yn erbyn Prato a Perpignan. Ac mae clo’r rhanbarth o Went yn ffyddiog yng ngallu ei dîm.

“Mae’n mynd i fod yn gêm anodd, ond rwy’n credu byddai unrhyw chwaraewr rhanbarthol yng Nghymru yn dweud mai dyma’r gemau rydych chi’n cael eich profi arno,” meddai Adam Jones.

“Mae’r Scarlets yn dîm da, ond rydym ni gyda safon dda i’n chwarae ac mae gyda ni’r hyder i fynd allan ac ennill.”

Pedwar newid sydd i’r tîm a drechodd Perpignan yn Rodney Parade, a’r pedwar ymhlith y blaenwyr. Yn absenoldeb Faletau yn safle’r wythwr mae Tom Brown yn ennill ei le ar ôl serennu i Gasnewydd yn erbyn Llanymddyfri’r wythnos ddiwethaf, ac wedi ennill seren y gêm  yn erbyn y Catalanwyr mae dyrchafiad i’r blaenasgellwr Lewis Evans i garfan Cymru yn creu lle i Andrew Coombs. Rhys Buckley fydd yn llenwi esgidiau  Lloyd Burns.

Ar hyn o bryd mae’r Dreigiau yn yr 11fed safle yng Nghynghrair y Pro 12 tra bo’r Scarlets yn 8fed.

Connacht v Gweilch 6:30pm Sadwrn

Parhau ar frig y Pro 12 fydd bwriad y Gweilch y penwythnos yma wrth iddyn nhw deithio i Orllewin Iwerddon i herio Connacht  sy’n 9fed yn y gynghrair.

Nid yw’r Gweilch wedi colli yn Connacht ers 2008 ond mae’r hyfforddwr yn wyliadwrus o’r peryglon sydd yn eu gwynebu yno.

“Nid ydym wedi colli yn Galway ers 2008 am nad ydyn ni’n caniatáu i’n hunain fodloni ar safon ein chwarae,” meddai Sean Holly.

 “Er hynny mae’r gemau yno wedi bod yn agos, ni heb roi coten iddyn nhw ers 2004 – 2005.”

Mae’r ddau dîm eisoes wedi cwrdd yn y gystadleuaeth yma ym mis Medi pan gurodd y rhanbarth Cymreig y Gwyddelod yn Stadiwm y Liberty o 26 – 21. “Ro’n i’n ffodus i ennill y gêm yna,” cyfaddefodd Holley.

Mewn cynhadledd i’r wasg pwysleisiodd yr angen i orffen cyfleoedd, ar ôl i’w dîm wastraffu nifer o gyfleoedd yn erbyn Treviso yr wythnos ddiwethaf. Er i’r Gweilch dorri llinell amddiffyn yr Eidalwyr 14 o weithiau dim ond ar ddau achlysur y llwyddon nhw i groesi’r llinell gais.  Llwyddodd Treviso i sgorio tri chais yn y gêm gyfartal.