Gleision 38–0 Aironi

Cafodd y Gleision fuddugoliaeth gyfforddus yn erbyn Aironi yn Stadiwm Dinas Caerdydd nos Iau. Roedd pedair cic gosb Dan Parks yn ddigon i roi mantais gyfforddus i’r tîm cartref ar yr egwyl cyn i bedwar cais yn yr ail hanner sicrhau’r pwynt bonws hefyd.

Llwyddodd Parks gyda chic gynnar i roi mantais o dri phwynt i’r Gleision wedi dim ond dau funud. Yna, ymestynodd y maswr y fantais i chwe phwynt gyda’i ail gic lwyddiannus wedi deg munud o chwarae cyn ychwanegu dwy arall yn y chwe munud olaf cyn yr egwyl. Dim ceisiau i’r tîm cartref yn yr hanner cyntaf felly ond mantais gyfforddus o 12-0.

Cais Cynnar yn yr Ail Hanner

Anfonwyd canolwr Aironi, Sinoti Sinoti i’r gell gallio wedi dim ond dau funud o’r ail hanner a manteisiodd y Gleision yn syth trwy sgorio cais cyntaf y gêm funud yn ddiweddarach. Cafodd y bêl ei lledu’n gyflym ac roedd digonedd o le i gefnwyr y Gleision a manteisiodd Casey Laulala trwy groesi’r llinell heb ei gyffwrdd bron iawn. Methodd Parks y gic ond roedd 17 pwynt yn gwahanu’r ddau dîm yn awr.

Ail gais y Gleision toc cyn yr awr oedd cais gorau’r gêm, ymdrech unigol wych o’r llinell hanner gan y canolwr, Dafydd Hewitt er y gellir beirniadu taclo gwan yr Eidalwyr. Llwyddodd Parks â’r trosiad y tro hwn er mwyn ei gwneud hi’n 24-0 ar yr awr.

Pwynt Bonws

Gyda’r fuddugoliaeth bellach yn ddiogel roedd gan y rhanbarth o Gymru 20 munud i sgorio dau gais arall er mwyn sicrhau’r pwynt bonws a daeth y cyntaf o’r ddau yn fuan wedyn, Tom James yn cwblhau gwrthymosodiad da wedi 63 munud a Parks yn ychwanegu’r ddau bwynt, 31-0 i’r Gleision.

Yna, dim ond dau funud yn ddiweddarach daeth y pedwerydd cais holl bwysig. Dim ond newydd ddod i’r cae fel eilydd yr oedd y bachwr, Marc Breeze pan daflodd y bêl i linell ymosodol ar linell bum medr Aironi cyn derbyn y bêl yn ôl yn y ryc a phlymio dros y gwyngalch. Trosodd eilydd arall, Ceri Sweeny y ddau bwynt ychwanegol er mwyn ei gwneud hi’n 38-0 gyda chwarter awr yn weddill.

Chwarter awr digon distaw a di sgôr oedd hwnnw gyda’r Gleision yn hapus gyda’r fuddugoliaeth a’r pwynt bonws. Daeth Aironi yn agos at gais cysur yn y deg munud olaf ond daliodd amddiffyn y Gleision yn gryf a chadw llechen lân.

Mae’r pum pwynt yn codi’r Gleision ddau safle i drydydd yn y tabl a dim ond pwynt sydd yn eu gwahanu nhw a’r Gweilch sydd ar frig y RaboDirect Pro12.

Ymateb

Un dyn a oedd yn hapus iawn ar ddiwedd yr 80 munud oedd seren y gêm , Dafydd Hewitt:

“Rydyn ni’n hapus iawn ar hyn o bryd, wedi cael dwy fuddugoliaeth dda yn y Cwpan Heineken a nawr rydym ni fyny i drydydd yn y Rabo, a gobeithio y gallwn ni wthio i’r brig yn ein gêm nesaf ni. Mae’n safle da i fod ynddo ac rydym ni’m hapus iawn i fod yno.”

Dylid cofio mai oddi cartref yn Leinster y mae’r gêm nesaf honno ond pwy a ŵyr yn dilyn y perfformiad ail hanner da yma gan y Gleision.