Shaun Edwards a Warren Gatland
Mae cyn glo Cymru  Derwyn Jones wedi dweud nad ydy’n o’n credu bod yna rôl i Shaun Edwards gyda Gleision Caerdydd.

Death ei gytundeb i ben ar ôl Cwpan y Byd fel hyfforddwr amddiffyn Cymru, ac mae wedi rhoi’r gorau i’w swydd fel prif hyfforddwr y Wasps i ddilyn trywydd arall ac er mwyn chwilio am gyfleoedd newydd ym myd rygbi.

Clywid sôn am rôl gyda Lloegr a Chymru, tra bod Shaun Edwards wedi cael ei gysylltu gyda’r Gleision.

‘‘Dydw i ddim yn meddwl y bydd Caerdydd yn opsiwn iddo i fod yn hollol onest,’’ meddai Derwyn Jones wrth Adran Chwaraeon BBC Cymru.

‘‘Dwi ddim yn meddwl mai ef fydd y dyn iawn ar gyfer y Gleision ac nid wyf yn credu y bydd hyn yn digwydd,’’ ychwanegodd.

Mae Shaun Edwards, sy’n gyn chwaraewr rygbi’r cynghrair rhyngwladol Prydain, wedi cyfuno ei swydd yn Wasps â rôl hyfforddwr amddiffyn Cymru ers 2008, gan eu helpu i’r rownd gyn-derfynol yng Nghwpan Rygbi’r Byd eleni.

Dywedodd Roger Lewis, prif weithredwr Undeb Rygbi Cymru, ei fod yn awyddus iawn i gadw Shaun Edwards.

Ond mae yna sôn bod yna rôl bosibl yn Lloegr iddo, gyda’r brif hyfforddwr Martin Johnson heb wneud penderfyniadau am ei ddyfodol eto.

Mae Derwyn Jones yn credu bod rhaid i Gymru wneud popeth i ymestyn cytundeb Shaun Edwards er mwyn iddo aros yn llawn amser fel rhan o staff Warren Gatland.

‘‘Dyna beth fydd yr opsiwn mwyaf addas dwi’n credu,’’ meddai Derwyn Jones.

‘‘Mae yna sôn fod yna rôl bosibl iddo yn Lloegr.  Byddant wedi gweld yr effaith a gafodd ar amddiffyn Cymru a gallwn ddychmygu y byddant eisiau siarad gydag ef.’’

‘‘Gallwn ddychmygu mai Roger Lewis fydd y cyntaf i geisio ei gael yn nôl. Ond beth oedd cryfderau Cymru yng Nghwpan y Byd?  Amddiffyn a ffitrwydd.

”Yr amddiffyn yw cyfrifoldeb Shaun Edwards ond hoffwn weld fwy o amrywiaeth yn yr ymosod.  Byddwn yn edrych ar rôl Rob Howley.”