Mae’r llun o Aaron Ramsey wedi ei gyhoeddi yn y cylchgrawn Four Four Two (o wefan fourfourtwo.com)
Mae rhai o gefnogwyr selog tîm pêl-droed Cymru wedi cael eu cynddeiriogi ar ôl i luniau o gapten tîm Cymru, Aaron Ramsey, yn gwisgo crys pel-droed Olympaidd Prydain, gael eu cyhoeddi.

Aaron Ramsey yw’r ail chwaraewr o garfan Cymru i ddangos ei awydd i chwarae gyda “Team GB” wedi i Gareth Bale ddweud y byddai yntau hefyd yn hoffi’r cyfle i gynrychioli tîm y Deyrnas Unedig yn y gemau.

Mae Cymdeithas Pêl-droed Cymru, ynghyd â’r Alban a Gogledd Iwerddon, eisoes wedi gwrthwynebu gweld eu chwaraewyr yn cynrychioli tîm y Deyrnas Unedig yn y gemau, gan eu bod nhw’n pryderu y bydd yn cyfaddawdu eu hannibyniaeth.

Ond does gan y Gymdeithas Bêl-Droed ddim hawl cyfreithiol i atal y chwaraewr canol cae i Arsenal a chapten Cymru, Aaron Ramsey, nag asgellwr Tottenham a Chwaraewr y Flwyddyn Cymru, Gareth Bale, rhag ymuno â ‘Team GB’.

‘Torcalonus’

Ond mae’r newyddion wedi cael ei feirniadu gan nifer o gefnogwyr ar wefan gymdeithasol Twitter.

Yn ôl un trydarwr, mae’r newyddion yn “dorcalonus”, tra bod eraill yn gweld y penderfyniad fel un “hunanol”.

Mae un arall wedi mynd gam ymhellach, gan gyhuddo’r capten o feddwl am ei lwyddiant ei hun yn hytrach nag un ei dîm cenedlaethol.

“Aaron Ramsey… y chwaraewr hunanol diweddaraf i beryglu annibyniaeth ein pêl-droed. A’n Capten ni hefyd.”

Ond mewn cyfweliad gyda chylchgrawn pêl-droed Four Four Two, mae Aaron Ramsey wedi amddiffyn ei awydd i chwarae gyda thîm y DU, gyda’r cylchgrawn hefyd yn dangos llun o’r chwaraewr 20 oed yn y crys glas.

“Os ydyn ni’n cael y cyfle i chwarae, pam lai?” meddai. “Chi’n cynrychioli Prydain Fawr yn y Gemau Olympaidd. Dyw cael y cyfle i ennill medal aur ddim yn rhywbeth sy’n digwydd yn aml.

“Dylai chwaraewyr, os ydyn nhw’n cael y cyfle, fynd ymlaen a’i wneud; dydw i ddim yn gweld unrhyw broblem. Dwi wedi siarad gyda Gareth Bale ac mae e’n bwriadu chwarae dwi’n meddwl. Dwi’n meddwl fod y Cymry yn iawn gydag e. Mae e fyny i’r chwaraewyr.”

Mae adroddiadau erbyn hyn fod Craig Bellamy hefyd wedi cefnogi safbwynt Aaron Ramsey, ond dyw hi ddim yn glir eto a yw e’n bwriadu ceisio am le yn nhîm y Deyrnas Unedig.

Yn ei golofn yng nghylchgrawn Golwg wythnos diwethaf fe gododd Ian Gwyn Hughes, pennaeth cysylltiadau cyhoeddus Cymdeithas Pêl Droed Cymru, ofidion am amseru’r gystadleuaeth.

Mae 15 Awst 2011 “wedi ei glustnodi ar gyfer gemau cyfeillgar rhyngwladol, sef y cyfle olaf i Gary Speed gael gêm, sesiynau ymarfer a pharatoi ar gyfer gem gyntaf Cymru yn rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd.

“Sut yn y byd mae disgwyl iddo baratoi ar gyfer y rowndiau rhagbrofol gyda dywedwch Bale, Ramsey, Allen wedi bod yn chwarae mewn cystadleuaeth ryngwladol rhwng Gorffennaf a’r rownd derfynol ar Awst 21?”

Yn ei golofn, mae Ian Gwyn Hughes yn darogan bydd y pwnc yma’n “codi ei ben sawl tro yn ystod y misoedd i ddod.”

Gyda gem gyfeillgar rhwng Cymru a Norwy ar y 12 Tachwedd, nododd y byddai’n “ddiddorol gweld ymateb bydd i hyn i gyd gan gefnogwyr pybyr Cymru.”

Mae Ian Gwyn Hughes, ynghyd ag eraill, yn dadlau fod pêl droed yn cael ei ddefnyddio er mwyn hybu proffil y Gemau Olympaidd sy’n adnabyddus am gampau eraill.