Mae’r dyn croenddu cyntaf erioed i chwarae rygbi dros Gymru’n dweud na ddylid gwahardd cefnogwyr Lloegr rhag canu ‘Swing Low, Sweet Chariot’.

Mae rhai, gan gynnwys cyn-chwaraewyr Lloegr, yn galw am wahardd cefnogwyr rhag canu’r gân mewn gemau oherwydd ei chysylltiadau â chaethwasiaeth.

Mae rhai, gan gynnwys Boris Johnson, yn awyddus i sicrhau nad yw’r gân yn cael ei gwahardd, tra bod eraill fel Tywysog Harry yn cefnogi’r gwaharddiad posib.

Mae’r RFU, y corff sy’n rheoli’r gêm yn Lloegr, yn dweud eu bod nhw am gynnal adolygiad o’r defnydd o’r gân ar gyfer gemau Lloegr.

‘Gwallgofrwydd’

Ond yn ôl Glenn Webbe, byddai gwahardd y gân yn “wallgofrwydd”.

“Stopiwch siantio fel mwncïod! Canwch ‘Swing Low’ yn lle hynny,” meddai ar ei dudalen Twitter.

“Mae’n wallgof hyd yn oed meddwl am wahardd Swing Low am fod yn hiliol.

“Fydd hynny ddim yn cefnogwyr Seisnig rhag ei chanu hi.

“Beth nesaf? Cyhuddo pob cefnogwr o fod yn hiliol? PC wedi mynd yn wallgof.

“Fe wna i benderfynu beth sy’n fy sarhau i.

“Does dim angen cael eich sarhau ar fy rhan i.”