Mae Steve Cooper, rheolwr tîm pêl-droed Abertawe, yn dweud ei fod e a’r chwaraewyr yn ysu am gael chwarae eto, wrth iddyn nhw ddychwelyd i’r cae ym Middlesbrough heddiw (dydd Sadwrn, Mehefin 20).

Dyma’r tro cyntaf iddyn nhw chwarae ers ymlediad y coronafeirws ym mis Mawrth, ac mae ganddyn nhw naw gêm yn weddill i geisio sicrhau eu lle yn y gemau ail gyfle.

Maen nhw’n unfed ar ddeg ar hyn o bryd, dri phwynt yn unig islaw’r chwech uchaf, ac yn wynebu tîm Middlesbrough sydd yng ngwaelodion y Bencampwriaeth.

Ond mae Steve Cooper yn cyfaddef fod yna adegau pan oedd chwarae gemau pêl-droed yn edrych yn annhebygol.

“Hir yw pob aros,” meddai.

“Roedd llawer o adegau pan oedden ni mewn cyfnod ansicr.

“Ond ry’n ni wedi cyffroi ac yn ysu am gael bwrw iddi.

“Mae popeth wedi bod yn arwain at ailddechrau, a dyna fyddwn ni’n ei wneud ddydd Sadwrn.

“Dw i’n meddwl fod pawb yn meddwl [na fyddai pêl-droed eto y tymor hwn] ar ryw adeg, pan oedd y pandemig ar ei waethaf.

“Dw i’n meddwl fod pawb wedi meddwl fod amheuaeth ar ryw adeg, ond chwarae teg i bawb, fe wnaethon ni ddal ati.”

‘Profiad gwahanol’

Er bod gemau’n cael eu cynnal eto, bydd diwrnod y gêm yn hollol wahanol i’r arfer.

Bu’n rhaid i’r Elyrch wneud trefniadau gwahanol ar gyfer teithio i Middlesbrough ac aros yno, a bydd trefniadau gwahanol i’r arfer yn y stadiwm hefyd.

Fydd dim cefnogwyr, a bydd rhaid i’r chwaraewyr aros ymhellach ar wahân na’r arfer yn yr ystafell newid ac wrth eistedd fel eilyddion ar yr ystlys.

Bydd pump eilydd yn cael dod i’r cae yn lle’r tri arferol, a bydd seibiant hanner ffordd trwy bob hanner er mwyn i’r chwaraewyr gael dŵr gan fod lefelau ffitrwydd yn debygol o fod yn is na’r arfer oherwydd prinder amser i baratoi ar ôl dychwelyd i’r cae ymarfer ychydig wythnosau’n ôl.

“Mae’n mynd i fod yn wahanol heb y dorf a’r profiad cyfan ar ddiwrnod y gêm,” meddai Steve Cooper.

“Roedd gyda ni drefniadau gwahanol o ran teithio a llety ac wrth gwrs fydd popeth yn teimlo’n wahanol, ond mae’n rywbeth y bydd rhaid i ni ddod i arfer â fe, ond mae’n dal i fod yn unarddeg yn erbyn unarddeg.

“Ond dw i’n siŵr fod rhannau mawr o’r gêm yn mynd i deimlo’n normal hefyd.

“Rhaid i ni geisio addasu’n gyflym i’r newidiadau, ac mae’n fater o fwrw iddi.

“Does gan neb fantais neu anfantais, ac mae’r protocol wedi gwneud y cyfan yn deg.”

Awyrgylch

Yn ôl Steve Cooper, mae’r chwaraewyr yn gwybod beth i’w ddisgwyl o ran y stadiwm a’r diffyg awyrgylch, er bod disgwyl i Middlesbrough ddefnyddio uchelseinydd i greu sŵn y dorf.

“Ry’n ni wedi trafod ambell beth o ran ceisio creu ein hawyrgylch ein hunain ar y cae,” meddai.

“Mae’n fater o siarad â’n gilydd a bydd tempo’r gêm yn bwysig iawn.

“Fydd dim bechgyn yn casglu peli ar ymyl y cae.

“Yn nhermau’r sŵn, dw i ddim wedi gallu gweithio allan os yw Sky yn chwarae sŵn y dorf neu os yw e yn y stadiwm!

“Heb sicrwydd, ry’n ni wedi rhoi cynnig arni fan hyn fel bod y chwaraewyr yn gallu ei brofi.”

Anafiadau

Tra bod Mike van der Hoorn, yr amddiffynnwr canol dylanwadol, yn dal allan wedi’i anafu, mae’r Elyrch wedi cael hwb o ddarganfod fod y chwaraewr canol cae George Byers ar gael.

Fe fyddai wedi bod allan am weddill y tymor pe bai’r gemau wedi parhau ym mis Mawrth, ond mae’r cyfnod o seibiant yn golygu ei fod e wedi cael amser i wella o anaf i’w goes.

“Y newyddion da o ran Mike yw ei fod e’n ôl ar y glaswellt yn ymarfer gyda ni, ac mae George Byers wedi dychwelyd yn ôl yr arfer,” meddai Steve Cooper.

“Mae wedi bod yn anodd, ond yn dda hefyd.

“Bu’n rhaid i ni wthio’r chwaraewyr yn galed iawn, yn galetach nag arfer ac mae’n naturiol y cewch chi goesau blinedig ac ambell boen ond ar wahân i Mike, ry’n ni’n barod.”

Y gorffennol ddim yn bwysig

Gyda phob tîm yn gorffen y tymor mewn modd ansicr, mae Steve Cooper o’r farn fod pawb yn yr un sefyllfa, a nad yw gemau’r gorffennol yn bwysig am weddill y tymor.

“Ein dull ni yw canolbwyntio arnon ni ein hunain ac mae popeth wrth baratoi yn ymwneud â bod ar ein gorau,” meddai.

“Rydyn ni’n parchu’r gwrthwynebwyr ac yn ceisio deall sut fyddan nhw’n chwarae ond ein ffocws ni yw ni ein hunain bob amser.

“Does dim ‘fform’, does neb wedi chwarae ers misoedd, bydd y garfan yn edrych yn wahanol, bydd chwaraewyr ar gael nawr na fyddai wedi bod ar gael cyn y seibiant yn y tymor.”

‘Popeth yn y fantol’

Yn ôl Steve Cooper, mae “popeth yn y fantol” rhwng nawr a diwedd y tymor.

“Os nad yw’r chwaraewyr wedi’u hysgogi gan yr hyn y gallen ni ei gyflawni, yna dydyn nhw ddim i fi.

“Rydyn ni driphwynt oddi ar y chwech uchaf, gall [y bwlch] gael ei lenwi neu fe all ymestyn, ry’n ni’n gwybod hynny.

“Os yw’r gemau cynta’n mynd yn dda, gall popeth newid, rhaid i ni fynd amdani.”

Cefnogi Black Lives Matter

Yn y cyfamser, does dim cadarnhad eto sut fydd y chwaraewyr yn dangos eu cefnogaeth i’r ymgyrch Black Lives Matter.

Tra bod chwaraewyr yn Uwch Gynghrair Lloegr wedi bod yn gwisgo crysau â’r slogan ar y cefn ac wedi mynd ar bengliniau cyn gemau, dydy’r Elyrch ddim wedi cadarnhau a fyddan nhw’n dilyn yr esiampl honno neu’n gwneud rhywbeth gwahanol.

Ond maen nhw eisoes wedi cael tynnu eu llun ar y cae ymarfer yn penlinio.

“Fe wnaethon ni rywbeth ar ôl bod yn ymarfer, ac fe gafodd hynny ei arwain yn bennaf gan y chwaraewyr gyda chydweithrediad y staff,” meddai Steve Cooper.

“Does dim byd pendant wedi’i gynllunio o ran dydd Sadwrn oherwydd rhaid i chi gydweithio â’r swyddogion a’r tîm rydych chi’n chwarae yn eu herbyn, ond yr hyn rydyn ni’n wybod yw y byddwn ni’n gwneud unrhyw beth sy’n cael ei wneud.”