Mae Rob Howley, cyn-is hyfforddwr tîm rygbi Cymru, yn dweud bod marwolaeth ei chwaer wedi ei arwain i gamblo.
Cafodd ei anfon adref o Gwpan y Byd yn Japan y llynedd ar ôl iddi ddod i’r amlwg iddo fetio ar gemau cyn mynd i’r gystadleuaeth.
Mae’n dod i ddiwedd gwaharddiad naw mis o’r byd rygbi, ar ôl i Undeb Rygbi Cymru ei gosbi wrth ymdrin â’r mater yn fewnol ar ôl derbyn gohebiaeth gan gwmni betio am y digwyddiad.
Fe ddaeth i’r amlwg iddo fetio 363 o weithiau ar fwy na 1,000 o gemau rygbi o fis Tachwedd 2015, gan golli mwy na £4,000.
Ar ddau achlysur, fe wnaeth e fetio y byddai chwaraewyr o Gymru’n sgorio cais.
Marwolaeth ei chwaer
Bu farw ei chwaer Karen yn 2011, ac mae Rob Howley o’r farn mai dyna fan cychwyn ei broblemau personol â gamblo.
Mae’n dweud wrth y Mail on Sunday nad oedd e wedi ymweld â hi cyn ei marwolaeth a’i fod e wedi pendroni ynghylch dod o hyd i rywle iddi fyw ymhell oddi wrth eu mam wrth iddi frwydro ag iselder ac alcoholiaeth yn dilyn ysgariad.
“Ro’n i’n beio fy hun am ei marwolaeth,” meddai.
“Pe bawn i wedi ei gweld hi ar y dydd Mercher hwnnw, a fyddai hi’n dal yn fyw?
“Roedd tipyn o euogrwydd…
“O’i rhoi hi yn y tŷ hwnnw ar ei phen ei hun, fe wnes i greu amgylchfyd iddi ladd ei hun.
“Aeth yr alcoholiaeth o ddrwg i waeth gyda i… Fy nheimlad i oedd fy mod i wedi anfon fy chwaer i’w bedd.”
Canolbwyntio ar ei waith
Mae’n dweud iddo ymgolli yn ei waith yn dilyn y problemau ond fe ddaeth e o hyd i nifer o broblemau’n ymwneud â’i heiddo a’i hymwneud â’r heddlu pan oedd e’n mynd trwy ei phethau yn 2015.
“Nid yr arian oedd e, byth,” meddai am ei broblemau gamblo.
“Nid ymddygiad rhywun caeth oedd e.
“Mater o ddianc oedd e, a ffordd o anghofio am y pethau drwg a phrofiad fy chwaer.”
‘Embaras’
Mae’n dweud bod y profiad o ddweud wrth y chwaraewyr am ei gamblo yn Japan yn destun “embaras” iddo fe, yn ogystal â’r ffaith ei fod e wedi siomi ei wraig a’u plant.
Mae’n dweud nad oedd e eisiau gadael y tŷ am dri mis, ond ei fod e wedi cael cefnogaeth “ddiflino” gan Warren Gatland, oedd yn brif hyfforddwr tîm Cymru ar y pryd.
Aeth e i weld seicolegydd i gael triniaeth am dri mis, ac mae’n dweud ei fod e bellach yn deall pam ei fod e wedi troi at gamblo er mwyn ymdrin â marwolaeth ei chwaer.
Dychwelyd i’r byd rygbi
Wrth i’w waharddiad ddod i ben ar Fehefin 16, mae Rob Howley yn awyddus i ddychwelyd i’r byd rygbi.
Mae’n dweud bod y Wasps wedi bod yn awyddus i’w ddenu i weithio gyda Dai Young, a bod galwad ffôn ganddyn nhw wedi rhoi’r hyder iddo ddychwelyd i’r byd rygbi.
“Dw i nawr yn teimlo’n dawel fy meddwl a dw i ddim bellach yn brwydro yn erbyn bwganod, er does yna’r un diwrnod heb fy mod i’n meddwl am Karen.”