Mae’r awdurdodau tenis yng Nghymru’n galw am eglurhad gan Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru, wrth i’r gwaharddiad ar chwarae yn sgil y coronafeirws barhau am y tro.
Mae Cymru’n un o nifer fach o wledydd yng ngorllewin Ewrop sydd heb lacio’r cyfyngiadau ar chwarae’r gêm, ac mae safbwynt Llywodraeth Cymru’n wahanol i lywodraethau Prydain a’r Alban.
Bu’n bosib chwarae tenis yn Lloegr ers Mai 13, tra bo’r Alban newydd roi’r hawl i bobol chwarae eto.
Mae Tenis Cymru, y corff sy’n llywodraethu’r gamp yng Nghymru, yn poeni am effaith hirdymor y gwaharddiad ar chwarae.
Y cyfyngiadau
Mewn cynhadledd ddydd Gwener (Mai 29), awgrymodd Mark Drakeford wrth ateb cwestiynau am chwaraeon ei bod hi bellach yn ddiogel i bobol chwarae tenis, bowls a golff wrth gadw pellter cymdeithasol.
Ond dydy deddfwriaeth Llywodraeth Cymru ddim yn caniatáu hynny ar hyn o bryd.
Mae gan Gymru 1,250 o gyrtiau tenis, ac mae 95% ohonyn nhw yn yr awyr agored ac felly, mae’r awdurdodau wedi bod yn trafod y posibiliadau gyda Llywodraeth Cymru er mwyn sicrhau y gall pobol chwarae eto wrth gadw pellter cymdeithasol.
Mae chwaraewyr a hyfforddwyr wedi sefydlu deiseb erbyn hyn yn galw ar Lywodraeth Cymru i fynd i’r afael â’r sefyllfa, ac mae rhai clybiau wedi bod yn gohebu â’u gwleidyddion lleol.
‘Effaith ddinistriol’
“Yn dilyn wythnosau o gydweithio a sgwrsio â Llywodraeth Cymru, roedden ni a’r gymuned tenis wedi disgwyl gweld cyfyngiadau’n cael eu llacio yn ystod yr adolygiad ddydd Gwener,” meddai Simon Johnson, prif weithredwr Tenis Cymru.
“Mae tenis yn cael ei chwarae’n ddiogel, gyda mesurau ymbellháu cymdeithasol ar waith yn Ffrainc, yr Almaen, yr Eidal, Sbaen ac yn Lloegr a’r Alban.
“Mae’n fath arbennig o ymarfer corff yn yr awyr agored.
“Yma yng Nghymru, mae’r effaith yn ddinistriol i wirfoddolwyr, hyfforddwyr a’r rhai sydd yn dymuno gwneud ymarfer corff wrth chwarae’n lleol.
“Dw i wedi ysgrifennu at y Prif Weinidog yn dilyn ei sylwadau mewn cyfweliad ddydd Gwener, lle y gwnaeth e ei hun awgrymu bod tenis, golff a bowls i gyd yn briodol i gael eu chwarae gyda mesurau ymbellháu cymdeithasol yn eu lle.
“Mae gweinidogion eraill wedi cyfleu negeseuon tebyg.
“Mae’n glir fod tenis wedi cael ei esgeuluso yng nghynlluniau Llywodraeth Cymru, ac y dylen ni gael dychwelyd i chwarae mewn modd diogel ar unwaith.”