Mae aelod o staff Clwb Pêl-droed Caerdydd wedi profi’n bositif ar gyfer y coronafeirws.

Dydy’r clwb ddim wedi enwi’r unigolyn dan sylw.

Daw’r newyddion yn dilyn cyfres o brofion ar gae ymarfer y clwb ym Mro Morgannwg yn ystod yr wythnos.

Bydd yr unigolyn yn hunanynysu yn unol â chanllawiau’r Gynghrair Bêl-droed a Llywodraeth Prydain.

Mae chwaraewyr y clwb yn parhau i ymarfer ar ôl dychwelyd i’r cae ymarfer yr wythnos ddiwethaf.