Bydd S4C yn darlledu rhaglen yn trafod rygbi Cymru a’r coronafeirws yn ogystal â chlasuron rygbi y penwythnos hwn.
Mae’r tymor rygbi wedi cael ei ohirio yn sgil y coronafeirws.
Ddydd Gwener (Mawrth 27) am 8 o’r gloch y nos, bydd rhaglen Rygbi Cymru a Covid-19 yn edrych ar effaith Covid-19 ar bedair rhanbarth rygbi Cymru, yn ogystal â’r effaith sylweddol fydd y seibiant yn ei chael ar gymunedau, cefnogwyr a gwirfoddolwyr rygbi ledled Cymru.
Am 9 o’r gloch, bydd rhaglen Llewod ’71 yn edrych ar daith y Llewod i Seland Newydd yn 1971.
Roedd 13 o’r 30 o chwaraewyr gafodd eu dewis y flwyddyn honno yn Gymry, gyda chwech yr un o Iwerddon a Lloegr yn cael eu dewis, a phump o’r Alban.
Bryd hynny, enillodd y Llewod gyfres brawf yn erbyn y Crysau Duon am y tro cyntaf.
Yna, ar ddydd Sadwrn (Mawrth 28) am 5.45 y nos, bydd Clasuron Rygbi S4C yn ail-ddarlledu clasur o dymor 2011-2012, pan deithiodd y Gweilch i Ddulyn i herio Leinster yn rownd derfynol y Pro12.
Hon oedd gêm olaf Shane Williams, gyda’r Gweilch yn gobeithio cael eu coroni’n bencampwyr am y pedwerydd tro.