Mewn rhaglen newydd sy’n dechrau’n fuan ar S4C, bydd pum seleb yn cael eu gweld yn teithio i fannau gwahanol o Gymru i ddysgu mwy o’r iaith – gyda sawl her yn eu hwynebu.
Bydd gan y pump seleb, bum mentor ac mae ganddynt bum rheswm gwahanol dros ddysgu’r Gymraeg.
Bydd y rhaglen newydd, Iaith ar Daith, ymlaen pob nos Sul, gyda’r rhaglen gyntaf yn cael ei chyhoeddi ar nos Sul (Ebrill 19).
Byddant yn teithio o amgylch Cymru gan ymweld â gogledd Cymru, Ceredigion, Caerdydd, Sir Gâr ac Abertawe.
Y selebs fydd yn dysgu’r Gymraeg ar y rhaglen yw:
- Carol Vorderman – Y cyn-gyflwynydd Countdown, cyflwynydd teledu a radio.
- Colin Jackson – Enillydd medal Olympaidd am wibio a chlwydo a chyflwynydd BBC.
- Ruth Jones – Actores ac awdur.
- Adrian Chiles – Cyn-gyflwynydd The One Show a chyflwynydd chwaraeon ITV.
- Scott Quinnell – Cyn-chwaraewr rygbi rhyngwladol i Gymru a sylwebydd chwaraeon.