Mae mewnwr Lloegr Danny Care yn honni bod protest Alun Wyn Jones yn erbyn Joe Marler wedi ei ysgogi gan Gymru’n colli’n Twickenham.
Bydd Joe Marler yn wynebu achos disgyblaethol yn Nulyn heddiw (dydd Iau, Mawrth 12) ar ôl cael ei gyhuddo o “afael, troi neu wasgu” ceilliau capten Cymru.
Bu i hyn ddigwydd ym munudau cynnar yr ornest rhwng Cymru a Lloegr, gydag Alun Wyn Jones yn anhapus na chafodd y digwyddiad ei adolygu gan y TMO.
Mae’r drosedd yn cario lleiafswm o 12 wythnos o waharddiad a gan nad yw record disgyblaeth Joe Marler yn un dda, gallai wynebu gwaharddiad tipyn yn hirach.
Ond mae Danny Care yn mynnu mai gweithred o ddrygioni ydoedd yn hytrach na malais.
“Os yw Cymru’n ennill y gêm yna, dwi ddim yn meddwl y byddai’n fater difrifol,” meddai.
“Mae ymateb Alun Wyn Jones ar ôl y gêm yn fwy na thebyg yn ymateb gan Alun Wyn Jones siomedig a blin.”