Bu’n rhaid i Rhun Williams, asgellwr y Gleision, ymddeol o’r byd rygbi’n 22 oed ar ôl methu â gwella’n llwyr o anaf i’w wddf.

Cafodd cyn-chwaraewr dan 20 oed Cymru anaf i nerfau ymylol ochr chwith ei gorff mewn gêm yn erbyn Zebre ym mis Chwefror 2018.

Dechreuodd e chwarae rygbi gyda Chlwb Rygbi Caernarfon, cyn ymuno ag academi’r Gleision yn 2016, a mynd yn ei flaen i chwarae 28 o weithiau i’r rhanbarth.

Ar ôl creu argraff gyda’r Gleision cafodd ei enwi yn rhan o garfan Cymru ar gyfer taith haf 2017 ond oherwydd anaf i’w ffêr, doedd dim modd iddo fynd ar y daith.

“Yn amlwg dwi wedi fy siomi’n fawr na fyddai’n medru dychwelyd i chwarae rygbi,” meddai mewn datganiad.

“Dwi wedi gwneud popeth fedra’i i ddod yn ôl, ond mae’n rhaid i mi dderbyn cyngor yr arbenigwr.

“Dwi’n ddiolchgar iawn am yr holl gefnogaeth dwi wedi ei gael gan Gleision Caerdydd a’r WRPA dros y ddwy flynedd ddiwethaf, yn enwedig yr adran feddygol, Phil Davies o’r WRPA a fy nghyd-chwaraewyr sydd wedi bod yn wych”.

Siom fawr

“Mae’n siom fawr i ni fod Rhun wedi cael cyngor i roi’r gorau i chwarae,” meddai Richard Holland, prif weithredwr y Gleision.

“Roeddem i gyd yn ymwybodol o’r gallu a’r potensial oedd ganddo fel chwaraewr, ac rydym wedi ein rhyfeddu gyda’r ffordd y mae wedi delio gyda’i anaf, a’r ymdrech y mae wedi ei wneud i geisio gwella.

“Yn anffodus, mae’r anaf yn golygu diwedd ar ei yrfa fel chwaraewr, ond mae’n parhau fel aelod o’n teulu ni yma, a byddwn yn parhau i’w gefnogi wrth iddo addasu i fywyd oddi ar y maes chwarae.

“Rydym yn dymuno’r gorau iddo at y dyfodol.”