Mae gêm rygbi’r Gleision yn erbyn Zebre wedi cael ei gohirio oherwydd coronavirus.

Roedd disgwyl i dîm rhanbarthol y brifddinas herio’r Eidalwyr ar Fawrth 27.

Mae’r holl gemau’n ymwneud â thimau Eidalaidd yn y PRO14 wedi cael eu gohirio am y tro.

Fe ddaw ar ôl i Giuseppe Conte, prif weinidog yr Eidal, atal teithio di-angen yn sgil pryderon am ledu’r firws yn Ewrop.

Mae gêm Munster yn erbyn Benetton ar Fawrth 27 hefyd wedi cael ei gohirio.