Mae pryderon na fydd Aaron Ramsey ar gael i chwarae dros dîm pêl-droed Cymru ddiwedd y mis oherwydd coronavirus.

Bydd y tîm cenedlaethol yn herio Awstria yn Stadiwm Liberty yn Abertawe ar Fawrth 27 cyn wynebu’r Unol Daleithiau yn Stadiwm Dinas Caerdydd dridiau’n ddiweddarach.

Ond gan fod y chwaraewr canol cae yn chwarae i dîm Juventus yn yr Eidal, dydy hi ddim yn glir ar hyn o bryd a fydd e’n cael teithio oherwydd mesurau brys sydd wedi’u cyflwyno gan y prif weinidog Giuseppe Conte yn sgil y firws.

Mae disgwyl i Gymdeithas Bêl-droed Cymru wneud penderfyniad maes o law ar sail cyngor gan awdurdodau’r Eidal cyn i Ryan Giggs gyhoeddi’r garfan ar gyfer y gemau.

Mae teithio di-angen wedi’i wahardd yn y wlad, ar ôl i’r mesurau a gafodd eu cyflwyno yng ngogledd y wlad gael eu hymestyn i’r wlad gyfan.

Mae gemau pêl-droed yn yr Eidal wedi dod i ben am y tro ar ôl i rai gemau gael eu cynnal y tu ôl i ddrysau caôl i ddrysau caëedig.

Dim ond unwaith chwaraeodd Aaron Ramsey yn ystod ymgyrch ragbrofol Ewro 2020 Cymru, gan sgorio’r ddwy gôl dyngedfennol yn y gêm fawr yn erbyn Hwngari a sicrhaodd fod y tîm am fynd i brif gystadleuaeth ryngwladol Ewrop.