Fe fydd Joe Marler, prop tîm rygbi Lloegr, yn mynd gerbron panel disgyblu am gyffwrdd genitalia Alun Wyn Jones, capten Cymru, yn yr ornest Chwe Gwlad yn Twickenham ddydd Sadwrn (Mawrth 7).
Fe allai gael ei wahardd am hyd at chwe mis pe bai’r panel yn Nulyn yn ei gael e’n euog o ymddwyn yn groes i chwarae teg ddydd Iau (Mawrth 12), ac fe allai gael ei gosbi ymhellach am neges gudd ar Twitter sy’n defnyddio iaith anweddus ond heb gyfeirio at unrhyw beth penodol.
Mae Courtney Lawes, chwaraewr ail reng Lloegr, hefyd yn wynebu panel disgyblu ar yr un diwrnod, a hynny am dacl beryglus, yn ogystal â Manu Tuilagi am gerdyn coch.
Enillodd Lloegr y gêm danllyd o 33-30.
Eddie Jones dan y lach
Mae Eddie Jones, prif hyfforddwr Lloegr, hefyd dan y lach am ei sylwadau am y dyfarnwr Ben O’Keefe ar ôl y gêm.
Dywedodd yr Awstraliad ei bod hi’n gêm “13 yn erbyn 16”, gan awgrymu bod y dyfarnwr yn ochri â Chymru.
Roedd e hefyd yn feirniadol o’r cerdyn coch i Manu Tuilagi.