Mae clwb pêl-droed Stoke wedi cadarnhau y bydd chwaraewr canol cae Cymru, Joe Allen yn methu Ewro 2020 oherwydd anaf i’w ffêr.

Cafodd y chwaraewr 29 oed, sydd a 56 cap i Gymru, yr anaf wrth i Stoke drechu Hull o 5-1 ddydd Sadwrn (Mawrth 7).

Bu’n rhaid iddo adael y cae ar hanner amser wedi iddo syrthio’n lletchwith ar ôl baglu dros  chwaraewr canol cae Hull, Daniel Batty.

Bydd yn methu gweddill y tymor i Stoke yn ogystal â thwrnamaint Ewro 2020.

“Mae’n drychinebus i ni, ac iddo ef,” meddai rheolwr Stoke Michael O’Neill ar wefan swyddogol y clwb.

“Dwi’n gwybod beth mae’n ei olygu iddo gael chwarae i Gymru ac yn amlwg fe chwaraeom ni (Gogledd Iwerddon) yn eu herbyn yn 2016 a chafodd o dwrnamaint gwych bryd hynny.

“Dwi’n siŵr ei fod wedi edrych ymlaen at y twrnamaint a chael cyfle i ddangos eto ei fod yn chwaraewyr rhyngwladol o’r safon uchaf fel mae wedi ei wneud yn y gorffennol.”