Mae Wayne Pivac wedi bod yn egluro’r pedwar newid yn nhîm Cymru i herio Lloegr ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad ddydd Sadwrn (Mawrth 7).

Mae Liam Williams yn dychwelyd yn lle Josh Adams ar yr asgell ar ôl i hwnnw anafu ei ffêr, tra bod Josh Navidi yn y rheng ôl wrth i Taulupe Faletau gael ei enwi ar y fainc.

Tomos Williams fydd yn dechrau yn safle’r mewnwr yn lle Gareth Davies, ac mae Rob Evans yn y rheng flaen yn lle Wyn Jones.

Ar y fainc mae Rhys Carré yn camu i fyny, tra bod Aaron Shingler yn cymryd lle Will Rowlands sydd wedi anafu ei benglin.

Mae Cymru hefyd wedi cael hwb o glywed fod Dan Biggar a George North yn holliach ar gyfer y daith i Twickenham, lle maen nhw heb fuddugoliaeth yn y bencampwriaeth ers 2012.

Liam Williams a Josh Navidi yn barod

Dydy Liam Williams ddim wedi gwisgo’r crys coch ers Cwpan y Byd, pan gafodd e anaf  i’w ffêr, ac mae Josh Navidi wedi’i ddewis yn safle’r blaenasgellwr ar draul Aaron Wainwright.]

Dydy Josh Navidi ddim wedi chwarae i’r Gleision ers mis Ionawr.

Cadarnhaodd Wayne Pivac nad yw Taulupe Faletau wedi gallu ymarfer yn llawn gyda’r garfan heddiw (dydd Iau, Mawrth 5) a bod hynny “wedi cyfri yn ei erbyn”.

“Fe gafodd e ergyd yn y gêm ddydd Sul,” meddai.

“Ry’n ni’n credu y penwythnos hon y byddai’n well iddo fe ddod oddi ar y fainc a chael rhan lai yn y gêm.”

Yn ôl Wayne Pivac, mae Liam Williams a Josh Navidi ill dau yn barod i gamu i ffau’r llewod er eu diffyg amser ar y cae yn ddiweddar.

“Y peth allweddol oedd cael digon [o baratoi] i mewn iddyn nhw,” meddai’r prif hyfforddwr wrth gyfarfod â’r wasg.

“Ry’n ni’n credu bod y ddau yn barod i fynd.

“Maen nhw wedi gweithio’n galed.

“Mae’r ddau yn chwaraewyr profiadol iawn ac maen nhw’n adnabod eu cyrff cystal ag unrhyw un.”

Tomos Williams ar y blaen o drwch blewyn

Gyda Gareth Davies wedi dechrau yn erbyn Ffrainc a Rhys Webb yn dynn ar ei sodlau, Tomos Williams sydd wedi’i ddewis yn safle’r mewnwr i herio’r Saeson.

Ac mae Wayne Pivac yn gweld gwerth mewn cael tri mewnwr cryf yn cystadlu am y crys.

“Ry’n ni’n credu mai Tomos sy’n mynd â hi o drwch blewyn ar hyn o bryd,” meddai.

“O edrych ar y fainc, mae Webby yn dod â thipyn o brofiad a chyfathrebu, yn ogystal â’r gallu i reoli’r gêm.”

Y rheng flaen

Yn y rheng flaen, mae Rob Evans wedi’i ddewis yn safle’r prop yn lle Wyn Jones, sydd wedi anafu.

“Mae Wyn wedi cael anaf i’w glin, dyw e ddim wedi ymarfer ers deng niwrnod ac mae hynny wedi cyfri yn ei erbyn e.

“Mae Rob yn ysu am gyfle.”

Bydd y gic gyntaf am 16:45 ddydd Sadwrn (Mawrth 7).

Tîm Cymru: Leigh Halfpenny; George North, Nick Tompkins, Hadleigh Parkes, Liam Williams; Dan Biggar, Tomos Williams; Rob Evans, Ken Owens, Dillon Lewis, Jake Ball, Alun Wyn Jones (capten), Ross Moriarty, Josh Navidi, Justin Tipuric.

Eilyddion: Ryan Elias, Rhys Carre, Leon Brown, Aaron Shingler, Taulupe Faletau, Rhys Webb, Jarrod Evans, Johnny McNicholl.

Tîm Lloegr: Elliot Daly; Anthony Watson, Manu Tuilagi, Owen Farrell, Johnny May; George Ford, Ben Youngs; Joe Marler, Jamie George, Kyle Sinckler, Maro Itoje, George Kruis, Courtney Lawes, Marc Wilson, Tom Curry.

Eilyddion: Luke Cowan-Dickie, Ellis Genge, Will Stuart, Joe Launchbury, Charlie Ewels, Ben Earl, Willi Heinz, Henry Slade.