Mae Cymru wedi gwneud pedwar newid i’r tîm i herio Lloegr yn y Chwe Gwlad, gyda Liam Williams yn dychwelyd o anaf i’r ffêr wedi pedwar mis.

Bydd e’n cymryd lle Josh Adams ar yr asgell, wedi iddo yntau anafu ei ffêr yn erbyn Ffrainc ar Chwefror 22.

Y tri newid arall i’r tîm yw Tomos Williams, Josh Navidi a Rob Evans yn lle Gareth Davies, Taulupe Faletau ac Wyn Jones.

Mae Dan Biggar yn holliach wedi iddo anafu ei ben-glin wrth chwarae i Northampton, ac yn cadw ei le fel maswr.

Ac er iddo gael anaf i’w ben yn erbyn Ffrainc bydd George North hefyd yn cadw’i le ar yr asgell.

Dyw Cymru ddim wedi curo Lloegr yn Twickenham yn y Chwe Gwlad ers buddugoliaeth o 19-12 yn 2012.

Bydd y gic gyntaf am 16:45 ddydd Sadwrn (Mawrth 7).

Tîm Cymru: Leigh Halfpenny; George North, Nick Tompkins, Hadleigh Parkes, Liam Williams; Dan Biggar, Tomos Williams; Rob Evans, Ken Owens, Dillon Lewis, Jake Ball, Alun Wyn Jones (capten), Ross Moriarty, Josh Navidi, Justin Tipuric.

Eilyddion: Ryan Elias, Rhys Carre, Leon Brown, Aaron Shingler, Taulupe Faletau, Rhys Webb, Jarrod Evans, Johnny McNicholl.

Tîm Lloegr: Elliot Daly; Anthony Watson, Manu Tuilagi, Owen Farrell, Johnny May; George Ford, Ben Youngs; Joe Marler, Jamie George, Kyle Sinckler, Maro Itoje, George Kruis, Courtney Lawes, Marc Wilson, Tom Curry.

Eilyddion: Luke Cowan-Dickie, Ellis Genge, Will Stuart, Joe Launchbury, Charlie Ewels, Ben Earl, Willi Heinz, Henry Slade.