Scarlets 36–17 Southern Kings
Cafodd y Scarlets fuddugoliaeth bwynt bonws wrth iddynt groesawu’r Southern Kings i Lanelli yn y Guinness Pro14 nos Sul.
Dau bwynt yn unig a oedd ynddi ar hanner amser ar Barc y Scarlets ond rheolodd y tîm cartref wedi’r egwyl i ennill y gêm yn gyfforddus yn y diwedd.
Er i Courtney Winaar gicio’r Kings dri phwynt ar y blaen, y Scarlets a gafodd gais cyntaf y noson, Tevita Ratuva yn croesi wedi dadlwythiad gwych y prop, Phil Price!
Rhoddodd trosiad Dan Jones y tîm cartref bedwar pwynt ar y blaen ond yn ôl y daeth y tîm o Dde Affrica gyda chais Howard Mnisi yn eu rhoi yn ôl ar y blaen ddeuddeg munud cyn yr egwyl.
Ond Bois y Sosban a oedd ar y blaen wrth droi diolch i gais Ed Kennedy, y blaenasgellwr yn canfod ei hun ar yr asgell i gwblhau symudiad slic gan yr olwyr, 12-10 y sgôr wedi deugain munud.
Aeth y Kings ar y blaen yn gynnar yn yr ail hanner gyda chais Chris Hollis ond ymatebodd y Scarlets yn dda. Dim ond Bois y Sosban a oedd ynddi yn yr hanner awr olaf a chroesodd y Cymry am bedwar cais i ennill y gêm yn gyfforddus.
Daeth y cyntaf o’r rheiny wrth i’r eilydd, Ryan Conbeer, orffen yn wych ar yr asgell dde a’r nesaf wrth i Uzair Cassiem hyrddio drosodd wrth y pyst.
Gyda’r pwynt bonws yn ddiogel, dilynodd dau gais arall i Dan Jones a Tom Rogers yn y deuddeg munud olaf, 36-17 y sgôr terfynol.
Mae’r canlyniad yn cadw tîm Brad Mooar yn drydydd yn nhabl adran B y Pro14.
.
Scarlets
Ceisiau: Tevita Ratuva 20’, Ed Kennedy 34’ Ryan Conbeer 52’, Uzair Cassiem 62’, Dan Jones 69’, Tom Rogers 72’
Trosiadau: Dan Jones 21’, 53’, 63’
.
Southern Kings
Ceisiau: Howard Mnisi 28’, Christopher Hollis 47’
Trosiadau: Demetri Catrakilis 29’ 48’
Cic Gosb: Courtney Winaar 14’