Gleision 34–24 Benetton

Tarodd y Gleision yn ôl i drechu Benetton ar Barc yr Arfau yn y Guinness Pro14 nos Sul.

Roedd y tîm cartref yn wael yn yr hanner cyntaf ac roeddynt ddeuddeg pwynt ar ei hôl hi wrth droi. Ond cafwyd ymateb gwych wedi’r egwyl wrth iddynt daro nôl i ennill gyda phwynt bonws.

Hanner Cyntaf

Daeth cais cyntaf Benetton wedi deg munud, Monty Ioane yn gwrthymosod cic lac Ben Thomas cyn rhoi sgôr ar blât i Ian Keatley.

Dilynodd ail gais yr ymwelwyr hanner ffordd trwy’r hanner wrth i Imo Herbst hyrddio drosodd wedi sgarmes symudol hynod effeithiol.

Tarodd y Gleision yn ôl yn syth serch hynny gyda chais i Jason Harries, yr asgellwr yn sgorio yn y gornel wedi i gefnwr Benetton, Luca Sperandino, golli’r bêl ar ôl ceisio gwrthymosod o du ôl i’w linell gais ei hunan.

Ond yr Eidalwyr a oedd tîm gorau’r hanner cyntaf heb os ac roeddynt yn llawn haeddu mynd i mewn ar yr egwyl ddwy sgôr ar y blaen diolch i gais Toa Halafihi, yr wythwr yn gorffen yn gryf wedi pas fflat dda gan Charly Trussardi; 7-19 y sgôr wrth droi wedi trosiad Keatley.

Ail Hanner

Wedi hanner cyntaf hynod siomedig roedd y Gleision yn llawer gwell ar ddechrau’r ail. Ac roeddynt yn ôl o fewn sgôr wedi chwe munud wrth i Garyn Smith fownsio oddi ar daclo gwan Benetton i sgorio.

Dilynodd cais arall yn fuan wedyn wrth i Jason Tovey fesur cic letraws yn berffaith i Ryan Edwards gasglu a thirio yn y gornel chwith. Ychwanegodd Tovey’r trosiad ac roedd y sgôr yn gyfartal.

Cafodd gwaith da’r Gleision ei wrthwneud ar yr awr wrth i daclo gwan yn eu dau ar hugain ei hunain ganiatáu i Halafihi hyrddio trwodd am ei ail gais ef a phedwerydd ei dîm; pum pwynt o fantais i Bennetton a’r pwynt bonws yn ddiogel.

Yn ôl y daeth y Gleision eto serch hynny a defnyddiodd Seb Davies ei freichiau hir i ymestyn at y llinell gais ddeg munud o ddiwedd yr wyth deg.

Rhoddodd trosiad Tovey’r Cymry ar y blaen cyn i gic gosb ymestyn y bwlch i bump pwynt. Ac roedd y fuddugoliaeth yn berffaith ddiogel ddau funud o’r diwedd diolch i gais yr eilydd fewnwr, Lewis Jones.

Mae tîm John Mulvihill yn aros yn bumed yn nhabl adran B y Pro14 er gwaethaf casglu pwyntiau llawn yn y gêm hon.

.

Gleision

Ceisiau: Jason Harries 24’, Garyn Smith 46’, Ryan Edwards 53’, Seb Davies 70’, Lewis Jones 78’

Trosiadau: Jason Tovey 26’, 54’, 71’

Cic Gosb: Jason Tovey 76’

.

Benetton

Ceisiau: Ian Keatley 11’, Ime Herbst 22’, Toa Halafihi 35’, 62’

Trosiadau: Ian Keatley 23’, 37’

Cerdyn Melyn: Ian Keatley 52’