Roedd Stephen Jones newydd gael ei benodi’n hyfforddwr ymosod Cymru y tro diwetha’ i’r tîm rygbi cenedlaethol herio Ffrainc – yn rownd wyth ola’ Cwpan y Byd yn Japan – lle gwnaethon nhw grafu buddugoliaeth o 20-19. Doedd e ddim yn disgwyl cael gweithio fel aelod o dîm hyfforddi Warren Gatland, ond fe ddaeth e i’r swydd yn gynt na’r disgwyl yn dilyn helynt betio Rob Howley, a gafodd ei anfon adref cyn i’r un bêl gael ei chicio.
Mae e wedi cynrychioli timau’r Scarlets, Clermont Auvergne a Wasps, ac wedi hyfforddi Wasps a’r Scarlets.
Ond mae e bellach yn aelod o dîm hyfforddi Wayne Pivac sy’n ceisio atal ymgyrch Cymru yn y Chwe Gwlad rhag mynd oddi ar y cledrau’n llwyr yn dilyn y golled yn erbyn Iwerddon yn Nulyn bythefnos yn ôl. Yn y ‘gornel’ arall, wrth gwrs, mae ei gyn-gydweithiwr Shaun Edwards, sydd bellach yn hyfforddwr amddiffyn ‘Les Bleus’.
Mae diwrnod gemau rhyngwladol bob amser yn cynnig cyfle i droi’r cloc yn ôl, y tro hwn i dymor 2007 pan oedd Stephen Jones yn gapten ar ei wlad.
Mae’n werth edrych ar y gyfrol O Clermont i Nantes ohono ef yn sgwrsio gyda Lynn Davies, a gyhoeddwyd gan y Lolfa y flwyddyn honno, i’n hatgoffa’n hunain o rywfaint o’r hanes.
Capten Ffrainc bryd hynny oedd neb llai na Raphael Ibanez, rheolwr Ffrainc erbyn hyn. Mae’n siŵr fydd cyfrifoldebau’r ddau yn Stadiwm Principality yn dra gwahanol i’r rhai sy’n cael eu disgrifio ar ddiwrnod y gêm yn Paris yn 2007:
“Ar ôl cyrradd yno fe ddilynes i’r un drefen ag arfer a mynd mas i’r cae i ymarfer cico am ychydig. Yna, nôl i’r twnel rhyw dri chwarter awr cyn y gic gynta i gwrdd â Tony Spreadbury, y dyfarnwr, a Raphael Ibanez, capten Ffrainc, i daflu’r geiniog arferol er mwyn penderfynu pwy fydde’n ca’l dewis cymryd y gic gynta neu ddewis i ba gyfeiriad i whare gynta.”
Mae’r hyn mae’n ei ddweud nesa’ am y penderfyniad a ddaw yn sgil taflu’r geiniog yn awgrymu, i raddau, fod meddwl craff yr hyfforddwr ar waith ym mhen Stephen Jones hyd yn oed bryd hynny:
“Pan fydda i’n galw, beth fydda i’n ei weiddi bob amser yw “tails for Wales, never fails”, ond wrth gwrs ry’n ni’n ffaelu’n aml! Os yw’r tywydd yn amlwg yn mynd i ga’l dylanwad ar y gêm, fe fydda i, cyn taflu’r geiniog, fel arfer yn siarad gyda’r bois y gall y tywydd ddylanwadu ar eu whare nhw – sef y bachwr a phwy bynnag fydd yn debyg o neud tipyn o gico. Er, rhaid cyfadde’, ’y mod i’n bersonol yn gredwr cryf mewn whare’n erbyn y gwynt gynta os bydd hi’n chwythu.”
Gallai’r hynny o eiriau fydd gan Stephen Jones i’w cynnig i Dan Biggar, Ken Owens a sawl aelod o’r chwarteri gael cryn ddylanwad ar gêm sy’n debygol o fod yr un mor agored ag y bydd yn gorfforol.
Mae’n cyfadde’ yn y gyfrol mai prin yw’r geiriau Ffrangeg ddysgodd e yn ystod ei dri thymor gyda Clermont Auvergne dros ddegawd yn ôl bellach. Ond mae’n bosib na fydd fawr o Gymraeg rhwng y naill dîm a’r llall chwaith, ar ôl yr holl frwydrau geiriol a fu yr wythnos hon.
Y prop Wyn Jones sbardunodd y ffrae eiriol gynta’ yr wythnos hon, ar ôl mentro awgrymu y byddai pac Ffrainc yn ceisio twyllo yn y sgrym. Tarodd Fabien Galthié, prif hyfforddwr y Ffrancod, yn ôl drwy gyhuddo Cymru o ddangos diffyg parch. Ibanez, serch hynny, gafodd y gair ola’ drwy awgrymu fod “gweld Cymru’n crïo fel hyn yn gwneud i ni wenu”.
Os bydd dagrau Cymru’n cronni ar ddiwedd y gêm heddiw, mae O Clermont i Nantes yn rhoi mewnwelediad i ni o beth mae Stephen Jones yn ei ddisgwyl gan y wasg. Byth ers ei ddiwrnod cynta’n gapten, mae’n dweud iddo wynebu “agweddau a chwestiynau negyddol” gan nodi bod mwy o bwysau’n dod o du’r cyfryngau Cymreig na’r wasg Seisnig, Brydeinig.
“Wrth gwrs mae ’na adegau pan fyddwn ni’n haeddu beirniadaeth ond yr hyn sy’n gadael blas cas yw’r ffordd mae ambell i bapur yn mynd mas o’i ffordd yn gyson i sgrifennu adroddiade negyddol.”
Ennill heddiw, a bydd pawb yn hapus. Colli, a bydd y wasg yn sicr yn codi amheuon am dîm Cymru enillodd y Gamp Lawn y llynedd. A dim ond cynyddu fydd y pwysau ar Stephen Jones, Wayne Pivac a’r criw wrth adeiladu tua’r uchafbwynt yn Twickenham ymhen pythefnos. Colli bryd hynny, a bydd Cymru gyfan yn crïo.