Mae Josh Adams yn dweud ei fod e’n cael “siom braidd” os nad yw’n sgorio mewn gêm dros ei wlad.

Mae asgellwr Cymru a’r Gleision wedi sgorio 14 o geisiau mewn 23 o gemau dros ei wlad, gan gynnwys dau hatric ac fe wnaeth e orffen ar frig rhestr prif sgorwyr ceisiau Cwpan y Byd yn Japan y llynedd.

Mae e wedi’i enwi yn nhîm Cymru i herio Ffrainc yn Stadiwm Principality heddiw (4.45).

“Dw i’n cael siom braidd os nad ydw i’n sgorio cais,” meddai.

“Mae sgorio ceisiau’n wych, a dw i wrth fy modd yn ei wneud e.

“Dw i’n chwilio am gyfleoedd bob tro dw i’n gallu.

“Dw i bob amser o gwmpas y cae, mewn safleoedd na fyddech chi’n disgwyl i fi fod ynddyn nhw, bob tro yn chwilio am gais.

“Dim ond fy mod i’n creu argraff bositif ar ran y tîm, os dw i’n torri’r llinell a ddim yn sgorio ond yn ei rhoi hi i rywun arall ac mai dyna’r opsiwn iawn, dyna wna i.

“Pa bynnag ffordd y galla i gael effaith bositif i ni fel tîm yw’r peth pwysicaf ac os daw cais yn sgil hynny, gwych.

“Fe wna i barhau i wneud hynny a gobeithio y bydd yn arwain at ragor o geisiau a chyfleoedd i ni fel tîm.

“Mae’n un o’r pethau hynny lle os ydych chi’n sgorio cais, mae’n wych, ond ennill yw’r peth gorau yn y pen draw.

“Dim ond ein bod ni’n dod oddi ar y cae ar y diwedd wedi ennill y gêm, does dim teimlad gwell na hynny.”

Record ddi-guro yng Nghaerdydd

Mae Josh Adams yn gobeithio cynnal ei record 100% o fuddugoliaethau yng Nghaerdydd heddiw.

“Dw i erioed wedi colli yng Nghaerdydd,” meddai.

“Dw i’n ennill cap rhif 24 ddydd Sadwrn, a dw i erioed wedi colli gartref a dw i’n sicr ddim eisiau gwybod sut deimlad yw e.”

Mae gan dîm Cymru 859 o gapiau Chwe Gwlad rhyngddyn nhw, ac maen nhw wedi ennill wyth allan o’r naw gêm diwethaf yn erbyn Ffrainc.

Ond collon nhw eu gêm ddiwethaf o 24-14 yn erbyn Iwerddon, wrth i Josh Adams adael y cae ag anaf ar ôl dim ond 25 munud.

“Bob tro gyda’r timau da, fe welwch chi ymateb y tro nesa’ maen nhw’n chwarae ar ôl colli.

“Rydyn ni wedi edrych ar y gêm, gweld lle’r aeth pethau o’i le a’r pethau y gallen ni weithio arnyn nhw.

“Dydd Mawrth oedd ein diwrnod gorau ni’n ymarfer fel carfan ers i ni ddod i mewn, dw i’n meddwl.

“Roedd pawb yn siarp, roedd y cyfan yn gorfforol, roedden ni’n mynd at ein gilydd ac roedd ymdeimlad o roi trefn ar bethau ar ddydd Sadwrn.

“Roedd yr un yn wir ddydd Iau, pan gawson ni sesiwn dda iawn.

“Mae angen i ni wella’r perfformiad, ry’n ni gartre’ o flaen torf lawn, ac mae Caerdydd yn rocio go iawn pan fo pawb yno.”