Cei Connah 1–0 Y Seintiau Newydd                                            

Mae Cei Connah gam yn nes at gipio teitl y Cymru Premier ar ôl trechu’r Seintiau Newydd yn Stadiwm Glannau Dyfrdwy nos Wener.

Pwynt yn unig a oedd yn gwahanu’r Nomadiaid ar y brig a’r Seintiau yn yr ail safle ar ddechrau’r noson ond lledodd y bwlch hwnnw i bedwar pwynt diolch i gôl Callum Curran.

Roedd yr amodau yn hynod anodd yn ogledd ddwyrain Cymru, gyda’r gwynt cryf yn ei gwneud hi’n anodd i’r ddau dîm gorau yn y gynghrair roi dwy bas at ei gilydd.

Gyda hynny mewn golwg, roedd un gôl wastad yn debygol o ennill y gêm ac fe ddaeth honno yn hwyr yn yr hanner cyntaf, yn y seithfed munud o amser a ganiateir am anafiadau.

Anelodd Priestley Farquharson dafliad hir i’r cwrt cosbi, peniodd Mike Wilde hi ymlaen i gyfeiriad Curran a gorffennodd yntau’n dda ar y foli.

Roedd y gwynt gyda’r Seintiau yn yr ail hanner on ni wnaeth y pencampwyr chwarae’r amodau cystal â’r tîm cartref.

Yn wir, Cei Connah a gafodd y cyfleoedd gorau yn yr ail hanner hefyd a dylai Wilde fod wedi dyblu’r fantais ddeg munud o’r diwedd ond anelodd yn syth at Paul Harrison.

Ond roedd un gôl yn ddigon i Andy Morrison a’i dîm i ennill y gêm holl bwysig. Mae ganddynt bedwar pwynt o fantais bellach gyda saith gêm ar ôl.

.

Cei Connah

Tîm: Brass, Roberts, Farquharson, Horan, Morris, Wilde, Insall (Disney 83’), Poole, Holmes, Owen, Curran (Wignall 89’)

Gôl: Curran 45+7’

Cardiau Melyn: Roberts 4’. Owens 12’, Curran 31’, Wignall 90+2’

.

Y Seintiau Newydd

Tîm: Harrison, Marriott, Davies (Harrington 17’), Ebbe, Brobbel, Redmond, Hudson, Mullan, Nembhard (Cieslewica 85’), Edwards, Holland (Byrne 62’)

Cardiau Melyn: Redmond 25’, Marriott 90+4’