Mae’n rhaid i dîm pêl-droed Abertawe gredu y gallan nhw gyrraedd y gemau ail gyfle yn y Bencampwriaeth, yn ôl eu rheolwr Steve Cooper.
Daw ei sylwadau cyn y gêm yn erbyn Huddersfield yn Stadiwm Liberty brynhawn yfory (dydd Sadwrn, Chwefror 22).
Pum pwynt yn unig sy’n gwahanu’r Elyrch a’r safleoedd ail gyfle, ar ôl iddyn nhw gael gêm gyfartal 4-4 yn Hull, ac maen nhw’n unfed ar ddeg yn y tabl.
Dydyn nhw ddim wedi ennill yr un o’u pum gêm diwethaf, ond mae ganddyn nhw 13 o gemau’n weddill.
“Rhaid i ni edrych ymlaen a cheisio gwneud yn well,” meddai Steve Cooper.
“Rydyn ni bum pwynt i ffwrdd o’r safleoedd ail gyfle ac rydyn ni’n edrych ymlaen â meddylfryd o gredu y gallwn ni wneud hyn.
“Rhaid i ni wneud hynny neu, fel arfer, beth yw’r ots?
“Os enillwn ni’r gêm ddydd Sadwrn, fel rydyn ni am geisio’i wneud, a bod canlyniadau eraill yn mynd o’n plaid ni, yna mae llai o fwlch a phwy a ŵyr?
“Rhaid i ni gael y feddylfryd yna, a dyna sydd gyda ni.
“Os nad ydyn ni’n credu y gallwn ni ennill gemau, beth yw’r pwynt?
“Dydyn ni ddim yma jest i gymryd rhan, rydyn ni yma i lwyddo.”