Er mai Ffrainc sydd ar frig tabl y Chwe Gwlad gyda naw pwynt o’u dwy gêm gyntaf, dydyn nhw ddim wedi ennill yng Nghaerdydd ers 2010 – y tro diwethaf iddyn nhw ennill y Gamp Lawn.
Dyma fydd y tro cyntaf i Gymru a Ffrainc wynebu ei gilydd ers rownd yr wyth olaf yng Nghwpan Rygbi’r Byd fis Hydref diwethaf.
Enillodd Cymru’r gêm honno 20-19, cyn colli i’r pencampwyr De Affrica yn y rownd gyn derfynol.
Oherwydd anaf i Damian Penaud mae Gael Fickou, y chwaraewr sydd wedi’i gapio fwyaf i Ffrainc, yn dychwelyd i’r asgell. O ganlyniad i hyn Arthur Vincent a Vitim Vakatawa sydd wedi eu dewis i ddechrau yng nghanol y cae
Mae yna newidiadau hefyd ar y fainc, bydd y prop Jean-Baptiste Gros a’r blaenasgellwr Dylan Cretin yn ennill eu capiau cyntaf pe baent nhw’n chwarae rhan yn y gêm ddydd Sadwrn.
“Rydym yn mynd yna i ennill” – Shaun Edwards
Dyma fydd y tro cyntaf i gyn-hyfforddwr amddiffynnol Cymru, Shaun Edwards sydd nawr yn hyfforddwr amddiffynnol Ffrainc wynebu Cymru.
“Rydym yn chwarae yn erbyn y pencampwr, felly mae’n rhaid i ni chwarae fel pencampwyr – rydym yn mynd yna i ennill,” meddai.
Tîm Ffrainc i wynebu Cymru:
- Anthony Bouthier
14. Teddy Thomas
13. Virimi Vakatawa
12. Arthur Vincent
11. Gaël Fickou
10. Romain Ntamack
9. Antoine Dupont - Cyril Baille
2. Julien Marchand
3. Mohamed Haouas
4. Bernard Le Roux
5. Paul Willemse
6. François Cros
7. Charles Ollivon (c)
8. Grégory Alldritt
Eilyddion:
- Camille Chat
17. Jean-Baptiste Gros
18. Demba Bamba
19. Romain Taofifenua
20. Dylan Cretin
21. Baptiste Serin
22. Matthieu Jalibert
23. Thomas Ramos