Mae Cymru wedi gwneud dau newid i’r tîm fydd yn wynebu Ffrainc yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn.
Y mewnwr Gareth Davies, a‘r wythwr Ross Moriarty yw’r unig newidiadau i’r tîm gollodd yn erbyn y Gwyddelod bythefnos yn ôl.
Mae Dan Biggar a Josh Adams a anafwyd yn y gêm yn erbyn yn Nulyn yn dechrau’r penwythnos hwn, ac mae’r canolwr newydd Nick Tompkins wedi cadw ei le yn ganol y cae gyda Hadleigh Parkes.
Mae dau newid ar y fainc hefyd gyda Rob Evans yn cymryd lle Rhys Carré, a’r chwaraewr di-gap Will Rowlands yn lle Adam Beard.
“Doedd Gareth ddim ar gael ar gyfer y gêm gyntaf yn erbyn yr Eidal, a daeth oddi ar y fainc yn erbyn Iwerddon. Mae’n chwaraewr sy’n llawn egni ac rydym yn edrych ymlaen i’w weld yn dechrau ddydd Sadwrn,” meddai prif hyfforddwr Cymru, Wayne Pivac.
“Mae Ross wedi creu argraff oddi ar y fainc ac wedi dod â llawer o egni i’r gemau hyd yn, mae’n haeddu cyfle i ddechrau.
“Mae newid hefyd ar y fainc wrth i ni geisio creu cystadleuaeth yno.
“Mae Will wedi hyfforddi’n dda, ac rydyn ni’n edrych ymlaen i’w weld yn perfformio ar y llwyfan cenedlaethol am y tro cyntaf.”
“Adeiladu ar y gemau blaenorol”
“Rydyn ni eisiau adeiladu ar y gemau blaenorol, ac rydyn ni’n edrych i fod yn fwy cywir gyda’r hyn rydyn ni’n ei wneud ar y cae.
“Mi fydd y Stadiwm dan ei sang ddydd Sadwrn, bydd yr awyrgylch yn drydanol a bydd hi’n ddiwrnod mawr yn y brifddinas.”
Tîm Cymru i wynebu Ffrainc:
- Leigh Halfpenny (87 Cap)
14. George North (93 Cap)
13. Nick Tompkins (2 Gap)
12. Hadleigh Parkes (27 Cap)
11. Josh Adams (23 Cap)
10. Dan Biggar (81 Cap)
9. Gareth Davies (52 Cap)
1. Wyn Jones (24 Cap)
2. Ken Owens (75 Cap)
3. Dillon Lewis (24 Cap)
4. Jake Ball (44 Cap)
5. Alun Wyn Jones (C) (136 Cap)
6. Ross Moriarty (43 Cap)
7. Justin Tipuric (74 Cap)
8. Taulupe Faletau (74 Cap)
Eilyddion:
- Ryan Elias (11 Cap)
17. Rob Evans (37 Cap)
18. Leon Brown (8 Cap)
19. Will Rowlands (* Heb ei gapio)
20. Aaron Wainwright (20 Cap)
21. Tomos Williams (18 Cap)
22. Jarrod Evans (5 Cap)
23. Johnny McNicholl (2 gap)