Gweilch 26–24 Ulster
Cafwyd perfformiad da gan y Gweilch wrth iddynt drechu Ulster ar y Liberty yn y Guinness Pro14 nos Sadwrn.
Er i’r Gweilch dreulio rhan helaeth o’r gêm ar y blaen, roedd angen cic gosb hwyr Luke Price i gipio’r fuddugoliaeth yn y diwedd.
Roedd Price eisoes wedi cicio’r Gweilch dri phwynt ar y blaen cyn i Ulster daro nôl gyda chais cyntaf y noson wedi deg munud o chwarae. Yr asgellwr, Robert Baloucoune, a gafodd y sgôr ond y canolwr cryf, Stuart McCloskey a wnaeth y gwaith caled i gyd.
Cafwyd ymateb da gan y Gweilch ac roeddynt yn ôl ar y blaen o fewn ychydig funudau wrth i Owen Watkin lithro drosodd o dan y pyst wedi pas fflat dda gan Aled Davies.
Ymestynnodd y tîm cartref eu mantais pan groesodd Scott Otten am eu hail gais, yn cael ei wthio drosodd gan sgarmes symudol.
Daeth trydydd y Gweilch yn gynnar yn yr ail gyfnod wrth i’r bachwr, Otten, groesi eto yn dilyn sgarmes symudol effeithiol arall.
Rhoddodd hynny’r Gweilch dri phwynt ar ddeg ar y blaen gyda hanner awr yn weddill ac roeddynt yn ymddangos yn gyfforddus.
Yn ôl y daeth Ulster serch hynny gyda dau gais yn y chwarter olaf. Croesodd Matt Faddes i ddechrau cyn i gic letraws berffaith Bill Johnston ganfod McCloskey am un arall.
Rhoddodd trosiad Johnston Ulster bwynt ar y blaen gydag ychydig dros ddeg munud yn weddill ond daeth un cyfle olaf i’r Gweilch daro nôl.
Pum munud o’r wyth deg a oedd ar ôl pan anelodd Price at y pyst, llwyddodd y maswr i adfer mantais fain y Cymry a daliodd y Gwilch eu gafael wedi hynny.
Mae’r Gweilch yn aros ar waelod tabl adran a er gwaethaf y fuddugoiaeth
.
Gweilch
Ceisiau: Owen Watkin 16’, Scott Otten 25’, 48’
Trosiad: Luke Price 17’
Ciciau Cosb: Luke Price 5’, 29’, 76’
.
Ulster
Ceisiau: Robert Baloucoune 10’, Matt Faddes 60’, Stuart McCloskey 68’
Trosiadau: Billy Burns 11’, Bill Johnstosn 61’, 69’
Cic Gosb: Billy Burns 36’