Mae nifer o benderfyniadau’r dyfarnwr wedi siomi Neil Harris, rheolwr tîm pêl-droed Caerdydd, ar ôl i’w dîm golli’r cyfle i guro Wigan heddiw (dydd Sadwrn, Chwefror 15).

Rhwydodd Sean Morrison yn yr amser a ganiateir am anafiadau gyda’r sgôr yn 2-2 ond penderfynodd y dyfarnwr ei fod e wedi herio’r golwr David Marshall yn anghyfreithlon.

“Do’n i ddim yn hapus gyda’r penderfyniad olaf,” meddai ar ôl y gêm.

“Dw i ddim yn meddwl bod y stadiwm yn rhy hapus chwaith.

“Dw i wedi cael cyfle i’w wylio eto o nifer o onglau gwahanol.

“Dw i wedi gweld golwr profiadol yn methu taro [y bêl] a cheisio’n drwsgl i’w chyffwrdd hi’r ail waith.

“Ry’n ni’n ei amgylchynu fe ond mae e ar i lawr yn ceisio codi, ac yn symud tuag at fy chwaraewyr i.

“Mae gan y dyfarnwr benderfyniad i’w wneud ym merw’r eiliad.”

Penderfyniadau eraill

Doedd Neil Harris ddim yn cytuno â sawl penderfyniad arall, meddai.

“Roedd ganddo fe benderfyniad i’w wneud yn yr hanner cyntaf, penderfyniad ynghylch cic o’r smotyn, a hwnnw’n gywir.

“Ond mae e wedi gwneud penderfyniad yn yr ail hanner pan fo [Cedric] Kipre wedi symud ei fraich at y bêl.

“A yw’n taro’i fraich? Mae’n anodd dweud, ond dyw e ddim wedi rhoi hwnnw i ni.

“Ac yna ar y diwedd, dyw e ddim wedi rhoi trydydd penderfyniad i ni.

“Ry’n ni’n rhwystredig. Wnaeth tri phenderfyniad mawr ddim mynd o’n plaid ni.

“Roedden ni’n llwyr haeddu ennill y gêm hon, a chawson ni’r cyfleoedd gorau.”

Doedd e ddim yn hapus chwaith am dacl ar Will Vaulks yn y funud gyntaf, a’r penderfyniad i ddangos cerdyn melyn yn unig i Lee Evans.

“Mae’n un fregus oherwydd dydych chi byth eisiau gweld chwaraewr yn cael ei anfon o’r cae.

“Pe bai’n VAR [dyfarnwr fideo], mae’n gerdyn coch bob tro.”

“Ry’n ni’n sôn am ddeg eiliad i mewn i’r gêm ac mae’n dacl beryglus iawn.

“Ydych chi’n disgwyl i ddyfarnwr anfon chwaraewr oddi ar y cae ar ôl 15 eiliad? Nac ydych.

“Ydy hi’n dacl [sy’n haeddu] cerdyn coch? Ydy mae hi.”