Scarlets 9–14 Caeredin
Collodd y Scarlets y cyfle i godi i frig adran B y Guinness Pro14 wrth golli gartref yn erbyn Caeredin brynhawn Sadwrn.
Byddai buddugoliaeth ar Barc y Scarlets wedi codi’r tîm carrtef dros yr Albanwyr a Munster ond yr ymwelywr a aeth â hi ar ddiwrnod gwlyb yn y gorllewin diolch i geisiau hanner cyntaf Van Der Merwe a Scott.
Saith munud yn unig a oedd ar y cloc pan fanteisiodd Duhan Van Der Merwe ar daclo gwan i groesi am gais cyntaf y prynhawn i Gaeredin.
Er i ddwy gic gosb o droed Dan Jones roi’r Scarlets o fewn pwynt wedi hynny fe groesodd yr Albanwyr eto ym munud olaf yr hanner, Van Der Merwe yn creu’r tro hwn, yn hollti trwy’r amddiffyn i greu’r sgôr i Matt Scott, 6-14 y sgôr wedi trosiad Jaco Van Der Walt.
Llwyr reolodd y Scarlets yr ail hanner ond mewn amodau anodd cawsant hi’n anodd bygwth llinell gais yr ymwelwyr.
Tri phwynt arall o droed Jones a oedd unig bwyntiau’r ail gyfnod felly wrth i Fois y Sosban orfod bodloni ar bwynt bonws yn unig.
Mae’r canlyniad yn codi Caeredin i frig adran B y Pro14 gyda’r Scarlets yn aros yn drydydd.
.
Scarlets
Ciciau Cosb: Dan Jones 11’, 36’, 48’
.
Caeredin
Ceisiau: Duhan Van Der Merwe 7’, Matt Scott 39’
Trosiadau: Jaco Van Der Walt 8’, 40’