Mansfield 1–0 Casnewydd                                                             

Colli fu hanes Casnewydd wrth iddynt deithio i Field Mill i wynebu Mansfield yn yr Ail Adran brynhawn Sadwrn.

Danny Rose a sgoriodd unig gôl y gêm i’r tîm cartref yn yr hanner cyntaf.

Mewn amodau anodd doedd fawr o syndod mai camgymeriad a arweiniodd at unig gôl y gêm, Mickey Demetriou yn ildio’r meddiant a Rose yn manteisio.

Mae’r canlyniad yn gadael tîm Mike Flynn yn yr unfed safle ar bymtheg yn nhabl yr Ail Adran ac maent bellach ddeuddeg pwynt o’r safleoedd ail gyfle.

.

Mansfield

Tîm: Stone, Pearce, Sweeney, Watts, White, Bishop, Tomlinson, Charsley, Hamilton, Maynard, Rose

Gôl: Rose 29’

Cerdyn Melyn: Charsley 72’

.

Casnewydd

Tîm: King, Willmott, Inniss, Bennett, Demetriou, Labadie, Gorman (Dolan 78’), Green, Amond, Waters (Matt 58’), Abrahams (Collins 45’)

Cardiau Melyn: Inniss 49’, Dolan 82’

.

Torf: 3,653