Mae Gareth Wyatt, hyfforddwr olwyr tîm rygbi merched Cymru, yn dweud eu bod nhw’n “brifo” yn dilyn y golled o 19-15 yn erbyn yr Eidal yng Nghaerdydd yr wythnos ddiwethaf, ac nad oes ganddyn nhw fwriad i “sgubo colli gemau dan y carped”.
Daw ei sylwadau wrth siarad â golwg360 ar drothwy taith i Donnybrook i herio Iwerddon ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad heddiw (dydd Sul, Chwefror 9).
Mae’n galw ar y tîm i “fod yn fwy clinigol gyda’r bêl” ond ar y cyfan, am yr un math o berfformiad â’r wythnos ddiwethaf, lle’r oedden nhw’n amddiffyn am rannau helaeth o’r gêm.
“Yn anffodus wythnos diwetha’, am lot o’r gêm ro’n ni’n amddiffyn ond chwarae teg i’r merched ma’s ’na, roedd ymdrech pob un yn anhygoel.
“Ond yn anffodus, mewn gemau prawf allwch chi ddim amddiffyn am y cyfnodau wnaethon ni.
“Ardal ry’n ni’n gobeithio adeiladu arno fe penwythnos yma, yn sicr ar ôl amddiffyn am gyfnod, yw sut allwn ni gadw’r bêl neu ennill tiriogaeth yn well i roi pwysau ar Iwerddon.
“Mae hi wastad yn gêm gorfforol yn erbyn Iwerddon, ac mae gyda nhw nifer o flaenwyr cryf sy’n lico rhedeg gyda’r bêl.
“Ond hefyd, maen nhw’n siŵr o fod yn edrych i symud y bêl mwy hefyd, felly bydd yr un fath o sialens ag mae’r Eidal yn dod gyda nhw, ond mae’n bwysig bo ni’n edrych ar ôl ardaloedd ar y tu fa’s hefyd wythnos yma.
“Mae’n wych i fod yn rhan o gystadleuaeth y Chwe Gwlad ond y peth mwya’ pwysig yw bo ni ddim eisiau jest bod yma yn gwneud lan y rhifau.
“Ni eisiau ennill pob gêm ond ni eisiau mynd ma’s a pherfformio a dangos steil ein hunain hefyd, ceisio adeiladu oddi ar y cae, ond mae’n bwysig bo ni’n gallu mynd y ffordd iawn ar y cae hefyd.
“Yr unig ffordd i wneud hynny yw dysgu gwersi o’r penwythnos diwetha’ a gobeithio bod pethau’n iawn yr wythnos yma.”
‘Mae’r merched yn brifo’
Dro yn ôl, meddai Gareth Wyatt, byddai’r tîm wedi sgubo’r golled siomedig yn erbyn yr Eidal o dan y carped.
Ond mae’r ffaith eu bod nhw’n brifo yn dangos pa mor bell mae gêm y merched wedi dod yng Nghymru, meddai.
“A dweud y gwir, fel hyfforddwyr ry’n ni’n lwcus.
“Un peth dwi wedi sylwi wythnos yma yw fod y merched yn dechrau sylweddoli fel unigolion pa mor agos o’n nhw i ennill y gêm a beth yn union, fel unigolion weithiau, gallan nhw wneud yn wahanol tro nesa’.
“Falle yn y gorffennol, dydyn nhw ddim wedi bod fel ’na, brush it under the carpet a symud ymlaen.
“Mae’r merched yn brifo ar ôl penwythnos diwetha’.
“Fel dywedais i’n gynharach, mae’r Eidal yn bumed yn y byd.
“Ni eisiau dringo’r tabl yna a bod yn bedwerydd yn y byd. Dyna beth yw’r targed.
“Mae’r chwaraewyr yn gwybod pa mor agos y’n nhw i gystadlu a churo’r timau yn y safleoedd hynny ar hyn o bryd.
“Yn anffodus, ni ddim yn gallu troi’r cloc yn ôl i ddechrau’r gêm eto a gwneud pethau’n wahanol, felly mae’n bwysig iawn bo ni’n dysgu’r gwersi o’r gêm, sylweddoli’r ardaloedd ni’n gallu adeiladu arnyn nhw, nid dim ond y pethau wnaeth ddim mynd yn dda ond pethau sy’n mynd yn dda, fel bo ni’n gallu gwneud nhw’n well hefyd.”
Plethu profiad a chwaraewyr newydd
Carfan gymharol ifanc sydd gan Gymru, ond mae digon o chwaraewyr profiadol hefyd i feithrin doniau’r to iau.
Bydd hynny’n bwysig wrth edrych tua’r dyfodol, yn ôl Gareth Wyatt.
“Dros yr autumn series, roedd lot o gapiau newydd. Mae’n bwysig bo ni’n rhoi cyfleoedd i chwaraewyr gwahanol.
“Mae timau y dyddiau yma’n ceisio cael carfanau profiadol yn enwedig wrth adeiladu ar gyfer Cwpan y Byd.
“Ond mae’r gêm yn tyfu. Mae ’na lot [o chwaraewyr] yng Nghymru ar hyn o bryd a ni’n gweld lot yn dod trwyddo.
“Maen nhw’n tueddi i wthio’r chwaraewyr profiadol, a dweud y gwir. Mae cymaint o egni gyda nhw, cymaint o ansawdd rygbi gyda nhw, dealltwriaeth, safonau, nid dim ond ar y cae ond yn y gym hefyd.
“Ni’n dechrau gweld bod y merched ifainc yn athletwyr a chwaraewyr hefyd, dyna’r ffordd mae’r gêm wedi mynd.
“Ni ddim jest yn edrych ar gêm Iwerddon. Ni’n adeiladu at Gwpan y Byd mewn rhyw flwyddyn a hanner.
“Mae’n bwysig pryd y’n ni’n mynd draw i Seland Newydd fod grŵp ’da ni sy’n iawn ac sy’n aros gyda’i gilydd pryd mae pethau’n mynd yn dda ond hefyd pryd mae pethau ddim yn mynd yn dda.
“Ni’n sicr ar y ffordd iawn.”