Mae Alun Wyn Jones yn dweud mai “ennill yw pwrpas rygbi rhyngwladol yn y pen draw” ar ôl i Gymru golli o 24-14 yn erbyn Iwerddon yn Stadiwm Aviva yn Nulyn.

Mae’r canlyniad yn golygu bod gobeithion Cymru o ddal eu gafael ar y Gamp Lawn ar ben, ond gall Iwerddon ei hennill o hyd.

Sgoriodd Tomos Williams a Justin Tipuric gais yr un i Gymru, a daeth trosiadau oddi ar esgidiau Dan Biggar a Jarrod Evans.

Sgoriodd Jordan Larmour, Tadhg Furlong, Josh van der Flier a Craig Conway geisiau’r Gwyddelod, gyda Johnny Sexton yn trosi dau ohonyn nhw.

Ac yn ôl Alun Wyn Jones, mae’n anodd canolbwyntio ar yr elfennau positif ar ôl colli.

“Ennill yw popeth mewn rygbi rhyngwladol yn y pen draw, on’d yfe?” meddai’r capten wrth ITV.

“Gallwch chi feddu ar yr holl fentergarwch a’r harddwch liciwch chi ond y canlyniad sy’n bwysig yn y pen draw.

“Dw i’n credu ein bod ni fwy na thebyg wedi rhoi cyfle iddyn nhw yn yr hanner cyntaf, yn enwedig sawl gwall, ambell ryc o bosib ar adegau hanfodol.

“Roedd cyfres o giciau cosb roedden ni’n teimlo y dylen ni fod wedi cael mwy allan ohonyn nhw, ond wnaethon ni ddim.”

Bydd Cymru’n croesawu Ffrainc i Gaerdydd ymhen pythefnos, cyn teithio i Loegr ar Fawrth 7 a gorffen yng Nghaerdydd yn erbyn yr Alban yr wythnos ganlynol.