Mae’r bachwr y Gweilch Dewi Lake a chwaraewr rheng-ôl y Dreigiau Taine Basham wedi cael eu hychwanegu i garfan Cymru ar gyfer y gêm yn erbyn Iwerddon ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad.

Mae’r ddau chwaraewr, sy’n gyn-aelodau o dîm dan-20 Cymru, wedi bod yn hyfforddi gyda’r garfan cyn cael eu dewis yn ffurfiol heddiw (ddydd Mercher, Chwefror 5).

Dyma fydd y tro cyntaf i Dewi Lake, 20, ymuno â charfan Cymru tra’r oedd Basham, 20, yn rhan o’r garfan ar gyfer y gêm yn erbyn y Barbariaid fis Tachwedd 2019.

Mae disgwyl i Wayne Pivac gyhoeddi ei dîm terfynol i wynebu Iwerddon am 11:00 y bore dydd Iau (Chwefror 6).

Bydd yr ornest honno yn dechrau am 2:15 bnawn Sadwrn (Chwefror 8).