Mae asgellwr cefn Cymru dan 18 a Lerpwl, Neco Williams, yn dathlu ar ôl ennill gwobr chwaraewr y gêm nos Fawrth (Chwefror 4)  ym mhedwaredd rownd Cwpan yr FA yn erbyn Amwythig.

Mae Neco Williams wedi bod yn hyfforddi o dro i dro gyda thîm cyntaf Lerpwl ers blwyddyn a hanner, ac mae’n credu bod polisi Lerpwl o roi cyfle i chwaraewyr ifanc yn gweithio ar y cae.

Dywed hefyd fod hyfforddi a chwarae gyda Trent Alexander-Arnold wedi ei helpu i ddatblygu fel pêl-droediwr.

“Mae o’n un o asgellwyr cefn gorau’r byd yr hyn o bryd felly wrth hyfforddi gydag ef, dw i wastad yn dysgu pethau gwahanol ganddo sy’n gwella fi fel chwaraewr,” meddai Neco Williams.

“Dw i ddim yn cymryd y sefyllfa dw i ynddi’n ganiataol. Dw i’n hapus dim ond i fod yno bob dydd.”