Mae Clwb Criced Morgannwg a chwmni Masuri yn cynnig gostyngiad i glybiau criced Uwch Gynghrair De Cymru wrth i liw eu dillad newid o rai gwyn i amryliw eleni.
Ar y cyd, maen nhw wedi buddsoddi £10,000 fel rhan o ymrwymiad i dyfu’r gêm ar lawr gwlad yng Nghymru, ac fe fydd yr arian yn mynd tuag at y gost o newid lliw’r dillad.
Bydd y 25 clwb cyntaf i gofrestru gyda Masuri yn cael gostyngiad o £200 oddi ar eu cit ar gyfer y tymor.
Bydd digwyddiad arbennig yn cael ei gynnal nos Iau, Chwefror 20 lle bydd modd i glybiau gael blas ar y cit newydd.
‘Y gêm gymunedol yn hanfodol bwysig’
“Mae’r gêm gymunedol yn hanfodol bwysig i Forgannwg ac yn dir ffrwythlon i fagu sêr y dyfodol,” meddai Huw Warren, pennaeth adran fasnachol Clwb Criced Morgannwg.
“Mae gyda ni gysylltiadau cryf â’r gêm glybiau yng Nghymru wrth i’n chwaraewyr fod ar gael yn aml i chwarae ar Sadyrnau yng ngemau’r cynghreiriau.
“Mae ein buddsoddiad ninnau a Masuri yn tynnu sylw at ein cefnogaeth barhaus i griced lleol yng Nghymru a’n dyhead i gydweithio’n agos â chlybiau lleol.”
‘Pennod newydd, gyffrous dros ben’
“Mae hon yn bennod newydd, gyffrous dros ben o gydweithio rhwng cyflenwyr cit a chlwb, a oedd bob amser yn rhan o’n partneriaeth ni â Morgannwg,” meddai Adam Shanley, prif swyddog marcnata Masuri.
“Mae’n wych fod Morgannwg, trwy ein partneriaeth, yn cefnogi clybiau criced lleol ledled Cymru.”