Daeth cadarnhad na fydd Liam Williams, sydd wedi ennill 62 o gapiau dros Gymru, ar gael ar gyfer gemau Cymru yn erbyn Iwerddon a Ffrainc ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni.
Dydy’r cefnwr ddim wedi chwarae ers anafu ei ffêr yng ngêm Cymru yn erbyn Ffrainc yn rownd yr wyth olaf yng Nghwpan y Byd y llynedd.
Daeth cadarnhad o’r newyddion gan Byron Hayward, hyfforddwr amddiffyn Cymru, wrth iddo gyfarfod â’r wasg.
Bydd y bachwr Elliot Dee, y mewnwr Gareth Davies a’r canolwr Owen Watkin ar gael i chwarae yn erbyn Iwerddon er i’r tri golli’r gêm yn erbyn yr Eidal oherwydd anafiadau.
Yn ôl Byron Hayward, bydd nifer o ddewisiadau anodd i’w gwneud cyn teithio i Ddulyn.
“Fe gafodd Nick Tompkins ddylanwad anhygoel ar y gêm – ac rydym ni’n gwybod beth gall Owen Watkin ei gynnig i’r gêm. Bydd hi’n ddadl ddiddorol,” meddai.
‘Mae’r Aviva yn lle anodd iawn i chwarae’
Mae Dan Biggar, sydd wedi ennill 80 o gapiau i Gymru, yn hen gyfarwydd â wynebu Iwerddon.
Ond dim ond unwaith mae’r maswr profiadol wedi curo Iwerddon yn Nulyn.
“Mae’r Aviva yn lle anodd iawn i chwarae,” meddai.
“Yr hyn sy’n bwysig i ni yw ein bod ni wedi cychwyn ein hymgyrch yn dda, ac mae’n bwysig ein bod ni nawr yn adeiladu ar y momentwm hwnnw.”
Bydd Cymru yn enwi eu tîm i wynebu’r Gwyddelod ddydd Iau.