Mae prif hyfforddwr Iwerddon, Andy Farrell, wedi enwi ei dîm i wynebu Cymru, ac wedi gwneud dau newid i’r tîm gurodd yr Albanwyr o 19-12 y penwythnos diwethaf.

Robbie Henshaw sydd yn dechrau yng nghanol cae ar ôl i Garry Ringrose anafu ei fawd.

Bydd Peter O’Mahony yn dychwelyd i’r rheng ôl gyda CJ Stander yn symud yn ôl i’w safle arferol fel wythwr, a hynny ar ôl i Caelan Doris, a oedd yn ennill ei gap cyntaf yn erbyn Yr Alban, gael ei orfodi o’r cae ar ôl pum munud gydag anaf i’w ben.

Mae’r newidiadau yn creu lle i chwaraewr rheng ôl Leinster, Max Deegan ar y fainc, ac mae disgwyl i’r chwaraewr 23 oed ennill ei gap cyntaf.

Bydd Cymru yn enwi eu tîm i wynebu’r Gwyddelod ddydd Iau.

Carfan Iwerddon i wynebu Cymru:

Jordan Larmour, Andrew Conway, Robbie Henshaw, Bundee Aki, Jacob Stockdale, Johnny Sexton (capt), Conor Murray.

Cian Healy, Rob Herring, Tadhg Furlong, Iain Henderson, James Ryan, Peter O’Mahony, CJ Stander, Josh van der Flier.

Eilyddion: Ronan Kelleher, Dave Kilcoyne, Andrew Porter, Devin Toner, Max Deegan, John Cooney, Ross Byrne, Keith Earls.