“Un wythnos ar y tro” yw athroniaeth Wayne Pivac, prif hyfforddwr tîm rygbi Cymru, wrth iddo baratoi i arwain y tîm ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad am y tro cyntaf.

Bydd y tîm yn herio’r Eidal yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn (Chwefror 1), wrth geisio amddiffyn eu teitl.

Yn ôl Wayne Pivac, mae’r perfformiad yn bwysicach na’r canlyniad.

“Mae ennill yn bwysig, ond ry’n ni’n ymwybodol mai hon yw ein gêm gyntaf wrth y llyw,” meddai wrth gyfarfod â’r wasg.

“Nid ein teitl ni yw hwn i’w amddiffyn.

“Mae gyda ni’r Eidalwyr o’n blaenau ni, ac mae’n rhaid i ni eu bwrw nhw drosodd.

“Fe gymerwn ni un wythnos ar y tro, a gweithio’n galed i gyflawni rhywbeth.”

“Ry’n ni’n dau yn angerddol ac eisiau ennill, ac mae’n fater o ganolbwyntio ar y gêm a rhoi perfformiad y gallwn ni fod yn falch ohono. 

“Mae angen i ni wella rhai sgiliau ond mae ’na ewyllys i wneud hynny, yn sicr.”

Camu allan yn Stadiwm Principality

Gêm gynta’r Chwe Gwlad fydd gêm gystadleuol gyntaf Wayne Pivac, a’i gêm gyntaf yn hyfforddi Cymru yn Stadiwm Principality, ac mae’n dweud y bydd yna “eiliad arbennig” wrth gerdded allan i’r cae.

“Yn 2005, ro’n i’n hyfforddi Ffiji, ac roedd yr achlysur yn un gwych.

“Yn bersonol, dw i’n edrych ymlaen yn fawr, a dw i wedi cyffroi’n fawr.

“Mae yna wefr o amgylch y lle, sgyrsiau da yn digwydd ac mae’r cyfan yn bositif iawn. 

“Byddwn ni’n parhau yn ôl ein harfer, ond mi fydd hi’n eiliad arbennig, a bydda i’n gwenu ar y tu mewn.

“Mae’r ddau fab wedi dod draw a phartner un ohonyn nhw, ac maen nhw wedi cyffroi.

“Bydd fy ngwraig a fy llysferched yno hefyd, felly bydd yr achlysur yn un gwych i bawb.”