Mae Caerdydd wedi arwyddo amddiffynnwr chwith Bournemouth Brad Smith ar fenthyg tan ddiwedd y tymor.

Treuliodd Brad Smith yr 18 mis diwethaf ar fenthyg gyda Seattle Sounders, gan wneud 35 ymddangosiad i’r tîm Americanaidd ac ennill y Cwpan MLS fis Tachwedd 2019.

Dechreuodd y gŵr o Awstralia ei yrfa gyda Lerpwl cyn symud i Bournemouth yn 2016.